Y Cyngor yn talu teyrnged i 'Frenin' byd rygbi – Barry John
320 diwrnod yn ôl
Mae Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, wedi talu teyrnged i un o fawrion rygbi Cymru, Barry John, yn dilyn ei farwolaeth.
Caiff ei ystyried yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed, a bu farw'r maswr o Gefneithin yn dawel ddydd Sul, yn 79 oed.
Roedd dal yn ei arddegau pan sgoriodd gais yn ei gêm gyntaf i Lanelli, ac aeth ymlaen i gynrychioli Caerdydd, Cymru a'r Llewod.
Yn ystod ei gyfnod ar y llwyfan rhyngwladol enillodd Cymru bencampwriaeth y Pum Gwlad deirgwaith, y Gamp Lawn un waith, a dwy Goron Driphlyg. Fodd bynnag, ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971, dechreuodd y wasg yn y wlad honno ei alw'n "Frenin", o achos ei chwarae meistrolgar a helpodd y Llewod i ennill y gyfres yn erbyn y Crysau Duon; yr unig dro iddynt gyflawni'r gamp honno.
Cynrychiolodd Barry John ei wlad 25 o weithiau a chwaraeodd 4 prawf i'r Llewod rhwng 1966 ac 1972.
Wrth siarad ar ran y Cyngor dywedodd y Cynghorydd Price:
Roedd Barry John yn ddewin ar y cae rygbi, ac er i'w gyfnod ar y maes rhyngwladol ddod i ben yn gynt na'r disgwyl, rhoddodd gymaint o bleser i gynifer o bobl. Mae cenedlaethau o gefnogwyr rygbi a anwyd ar ôl iddo roi'r gorau i chwarae wedi cael eu cyfareddu o weld ei sgiliau hudolus ar y sgrin.
Cafodd y crwt o Gefneithin a Sir Gâr y llysenw "Y Brenin", a hynny yn Seland Newydd o bob man, ac rydym ni'n hynod falch ohono.
Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Barry ar yr adeg drist hon. Bydd colled fawr ar ei ôl.”