Y Cyngor yn Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2022-23

238 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol y Gymraeg, ar gyfer y flwyddyn 2022-23.

Dyma seithfed flwyddyn o weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg ac er gwaethaf heriau cyllidol mae’r sector gyhoeddus yn ei wynebu, llwyddwyd i barhau i gynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau i’n trigolion yn Gymraeg. Mae’r Cyngor yn falch o’i hymdrechion parhaus i hyrwyddo a hybu’r Gymraeg yn fewnol, mewn meysydd polisi amrywiol ac o dan gyfrifoldebau ein Safonau Hybu.

Yn dilyn yr Etholiadau Lleol, ail-sefydlwyd Panel Ymgynghorol y Gymraeg, ac fe gyfarfu’r Panel traws-bleidiol hwn ddwywaith, yn yr Hydref ac ym mis Mawrth. Cafwyd cyfle ym mis Mawrth i dderbyn cyflwyniad gan Lywodraeth Cymru ar ddata Cyfrifiad 2021 ac i gnoi cil ar y realiti anodd a’r heriau sydd o flaen y Cyngor yn dilyn y canlyniadau siomedig i Sir Gâr.

Sefydlwyd yn ogystal cyfarfodydd misol rhwng Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Addysg a’r Iaith Gymraeg, Aelod Cabinet Materion Gwledig, Pennaeth Gwasanaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol a Rheolwr Polisi, Perfformiad a Phartneriaeth i drafod ymhellach y gostyngiad yn siaradwyr y Gymraeg yn Sir Gâr ac maent wedi cwrdd gydag ystod o ran-ddeiliaid i drafod a chynllunio’r camau nesaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Y Cynghorydd Glynog Davies

Mae’n bleser gen i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Y Gymraeg Cyngor Sir Gâr ar gyfer 2022/23.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu’n cyfieithwyr ar y pryd yn hynod o brysur gyda defnydd helaeth o’r Gymraeg ar lawr y siambr ac ar lein, ac ychwanegwyd y cyfarfodydd hybrid i’r arfaeth eleni gan integreiddio cyfieithu ar y pryd yn llwyddiannus i’r platfform hwn hefyd. Mae’r Cyngor yn falch o’r modd rhagweithiol ac effeithiol y mae wedi llwyddo i annog defnydd y Gymraeg yng nghyfarfodydd gan addasu i’r holl blatfformau gwahanol, ac mae gwaith diflino’r Uned Gyfieithu a’r Is-adran TG yn glodwiw. Dangoswyd safonau uchel, fel arfer, o safbwynt ein holl waith marchnata ac fe gafodd ein gwaith cyfathrebu ei ddarparu yn unol â’r Safonau yn ddi-ffael, gan gynnwys y negeseuon ar draws ein platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bu’n flwyddyn brysur dros ben o safbwynt hybu’r Gymraeg, gyda’r holl waith o adrodd ar gyfnod pum mlynedd gyntaf y Strategaeth Hybu, a llunio’r Strategaeth newydd. Gwnaed gwaith aruthrol yn cydlynu mewnbwn partneriaid ac yn cydgynllunio drwy’r Fforwm Strategol Sirol y Gymraeg y mae’r Cyngor hefyd yn arwain.
Dynodwyd cyllid gan y Cyngor hefyd i groesawu Eisteddfod yr Urdd i Sir Gâr. Er gwaetha’r heriau cyllidol, teimlwyd ei fod yn fuddsoddiad pwysig i hyrwyddo’r Gymraeg, a chynnal cyfleoedd gwych i’n pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i godi statws y Gymraeg fel iaith fyw yn y Sir. Defnyddiwyd pob cyfle i hyrwyddo’r digwyddiad yn sirol ac i sicrhau ymwneud gymaint o’n pobl ifanc a phosib yng ngweithgareddau’r ŵyl. Cydweithiodd nifer o adrannau’r Cyngor gyda chyrff y Fforwm i gefnogi ysgolion i gystadlu yn yr Eisteddfod, gan ganolbwyntio ar y rhai hynny nad ydynt fel arfer yn cystadlu. Bu’r ymateb yn gadarnhaol dros ben gydag ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg y Sir yn perchnogi’r cyfle i ymfalchïo yn y Gymraeg a’i ddefnyddio.
Rwy’ hefyd yn falch i nodi dau brosiect penodol arall sydd wedi eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol, sef yr ymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein cynlluniau economaidd sylweddol, a’r cychwyn ar y gwaith o weinyddu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ddau brosiect yma’n pwysleisio ein huchelgais, fel Cyngor, i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn ein holl waith.
Edrychaf ymlaen at flwyddyn prysur a llawn arall o hyrwyddo’r Gymraeg trwy gydweithio gyda’n holl partneriaid i wneud cynnydd yn Sir Gâr.”

Ewch i wefan y Cyngor Sir i ddarllen ei Hadroddiad Blynyddol y Gymraeg, ar gyfer y flwyddyn 2022-23 yn llawn.