Rhaglen Gyfalaf Pum Mlynedd 2024/25 yn cael ei chymeradwyo gan y Cyngor Llawn

190 diwrnod yn ôl

Mae Rhaglen Gyfalaf Pum Mlynedd 2024/25 Cyngor Sir Caerfyrddin, a fydd yn gweld buddsoddiad o £193m o fewn y sir dros y pum mlynedd nesaf, wedi ei chymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar ddydd Mercher, 28 Chwefror 2024.

Bydd £61m yn cael ei gyfeirio at ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella adeiladau ysgolion, £12m tuag at Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i helpu i drawsnewid ansawdd bywyd llawer o bobl yn eu cartrefi eu hunain, £34m ar gyfer prosiectau adfywio i hybu gweithgarwch economaidd a £16m i gwblhau'r prosiect Pentre Awel a gefnogir gan y Fargen Ddinesig - sy'n cynnwys canolfan hamdden newydd i Lanelli. Mae £43m wedi'i ddyrannu tuag at wella seilwaith priffyrdd economaidd lleol a seilwaith ailgylchu Sir Gaerfyrddin, ac mae £21m wedi'i glustnodi ar gyfer caledwedd a seilwaith TG digidol critigol. 

Cefnogir y pecyn cynhwysfawr ac eang hwn gan gyllid wrth Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r Cyngor ei hun.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau - Y Cynghorydd Alun Lenny:

Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cyflwyno rhaglen enfawr o fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin. Buddsoddiadau yn ein hysgolion, yn ein cysylltiadau a'n seilwaith trafnidiaeth, a'n cyfleusterau diwylliannol a hamdden; rydym wedi cyflawni ym mhob maes er gwaethaf wynebu heriau digynsail o ganlyniad i'r costau cynyddol a'r gostyngiadau yng nghyllid y llywodraeth.
Heddiw mae mwy o bwysau nag erioed ar ein cyllidebau ac felly mae angen cofio hynny wrth i ni ystyried y Rhaglen Gyfalaf Pum Mlynedd hon. Er gwaethaf anawsterau'r amgylchedd economaidd presennol, ein blaenoriaeth yw helpu i gadw ein pobl ifanc a'n teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin - drwy fuddsoddi mewn creu swyddi, tai, ysgolion a chyfleusterau hamdden.
Wrth i ni flaenoriaethu ein buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer 2024/25, rydym yn ymwybodol o'r anawsterau parhaus sy'n wynebu ein preswylwyr.  Rwyf, felly, yn falch iawn bod ein Cabinet wedi cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf gynhwysfawr hon a fydd yn rhoi hwb i'r economi leol ac yn darparu cyfleusterau newydd a gwell y gellir eu mwynhau gan breswylwyr ledled y Sir. Dyma biler allweddol ein strategaeth gyllidebol a fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau a'n dyheadau strategol fel gweinyddiaeth.”