Hoffem glywed eich barn am ein polisi Dechrau'r Ysgol yn Amser Llawn

218 diwrnod yn ôl

A oes gennych chi blant a gafodd eu geni ar ôl 1 Medi 2021? Os felly, mae Cyngor Sir Caerfyrddin am glywed eich barn ar y newidiadau arfaethedig o ran pryd y gall eich plentyn ddechrau ysgol amser llawn, a elwir hefyd yn Bolisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed, ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

O dan ei drefniadau derbyn presennol, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn caniatáu i blant ddechrau yn yr ysgol gynradd ar ddechrau'r tymor ysgol pan fydd pen-blwydd y plentyn yn bedair oed. Sir Gaerfyrddin yw'r unig Awdurdod Lleol yng Nghymru sydd â'r trefniant hwn.

Dweud eich dweud ar yr Ymgynghoriad Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed 2025/26

 

Cyflwynwyd dogfennau ynghylch yr Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n Codi'n 4 oed) i gyfarfodydd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ar 9 Hydref ac 11 Rhagfyr 2023. Argymhellodd yr Adolygiad fod y Cyngor, fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cynradd Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir , yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i drefniadau derbyn llawn amser dysgwyr.  Gallai hyn olygu newid o dymor eu pen-blwydd yn bedair oed i'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed neu i'r mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Gellid cyflwyno'r posibilrwydd o weithredu'r newid ym mis Medi 2025.

Yr oedran ysgol statudol, i bob plentyn gael addysg amser llawn yn ôl y gyfraith, yw 5 mlwydd oed.

Mae'r Cyngor Sir yn gofyn i drigolion am eu barn ar y tri opsiwn canlynol:

 

  • OPSIWN A: Derbyn dysgwyr amser llawn i ysgolion cynradd yn ystod y tymor ysgol y maent yn cael eu pen-blwydd yn bedair oed (trefniadau presennol)
  • OPSIWN B: Derbyn dysgwyr amser llawn i ysgolion cynradd yn y tymor ysgol yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
  • OPSIWN C: Derbyn dysgwyr amser llawn i ysgolion cynradd yn ystod y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.

Mae'r awdurdod lleol yn rhagweld y bydd pryderon yn cael eu mynegi y bydd oedi o ran addysg amser llawn plant a mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Mae'n bwysig nodi bod gan holl blant 3 blwydd oed hawl i gael lleoliad am ddim am 10 awr yr wythnos mewn sefydliad cofrestredig trwy’r Grŵp Hawliau Bore Oes o'r tymor yn dilyn eu penblwydd yn dair oed.  

Mae sawl math o ddarpariaeth:

  • Ysgol Feithrin – Ysgol Feithrin Rhydaman yw’r unig ysgol feithrin yn y Sir.
  • Dosbarthiadau Meithrin/Blynyddoedd Cynnar mewn Ysgolion Cynradd (ysgolion 3-11 oed).
  • Darpariaeth gan y sector nas cynhelir sy’n bartneriaid yn y Grŵp Hawliau Bore Oes, mudiadau fel Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-Ysgol Cymru, Mudiad Meithrin a darparwyr preifat.

 

Mae cymorth hefyd ar gael drwy gyllid Gofal Plant Llywodraeth Cymru, sy'n darparu hyd at 30 awr o addysg a gofal plant am ddim yr wythnos i rieni cymwys. Mae hyn ar gyfer plant rhwng 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: "

Rydym yn ymgynghori ar y newid arfaethedig i'r oedran dechrau ysgol llawn amser yn Sir Gaerfyrddin oherwydd ein bod yn delio â'r heriau sy'n ein hwynebu o ran llety a chapasiti ysgolion, anghysondeb ag Awdurdodau eraill, darpariaeth feithrin a blynyddoedd cynnar, cyllid a'r broses dderbyn ei hun, ar adeg pan fo gwariant refeniw o dan bwysau eithriadol. Gellid ailflaenoriaethu cyllido disgyblion amser llawn anstatudol mor ifanc er mwyn ariannu swyddogaethau statudol eraill o'r gyllideb a ddirprwyir i ysgolion. Rydym am glywed barn rhieni, ysgolion a'n cymunedau ar y newid arfaethedig hwn cyn symud ymlaen ymhellach ar y cynlluniau hyn.” 

Mae'r Ymgynghoriad ynghylch y Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd ar agor hyd at 1 Mawrth 2024 

Cliciwch yma i gyrchu'r Ymgynghoriad.