Dweud eich dweud am ein Strategaeth Rhaglen Moderneiddio Addysg
306 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgynghori ar ei Strategaeth Moderneiddio Addysg, sydd wedi'i datblygu i gyflawni dyheadau'r Awdurdod Lleol o ran moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion.
Cliciwch yma i gael dweud eich dweud ynghylch y Rhaglen Moderneiddio Addysg
Ers 2004, mae Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin wedi'i defnyddio gan y Cyngor Sir fel cynllun buddsoddi a rhesymoli strategol i drawsnewid darpariaeth ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Nod Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd sy'n gwasanaethu'r sir yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n bodloni'r angen heddiw a'r angen yn y dyfodol am addysg mewn ysgolion ac addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
Yn 2010 penderfynodd y Cyngor Sir fod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei hadolygu yn rheolaidd i sicrhau'i bod yn cyd-fynd â therfynau amser rhaglen genedlaethol Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (a ailenwyd yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy).
Mae hyn wedi bod yn un o nodweddion canolog y Rhaglen Moderneiddio Addysg ers ei sefydlu, sef bod angen cadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau ei bod yn parhau'n gyfredol ac yn ymateb i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg ac anghenion cymdeithas a chymunedau sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn yn fwy amlwg nag erioed yn yr hinsawdd sydd ohoni, ar ôl y pandemig.
Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal ei adolygiad o'r Strategaeth, yn unol â'r gofyniad i gyflwyno rhaglen amlinellol strategol ar gyfer y rhaglen dreigl newydd o fuddsoddi i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, diwygiwyd Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg i lywio’r modd y cyflawnir y Rhaglen Moderneiddio Addysg newydd yn y dyfodol. Mae'n cael ei harwain gan set o amcanion strategol a'i thanategu gan ddarnau diben ac egwyddorion addysgol Adran Addysg y Cyngor i sicrhau cydlyniad â'r 8 Blaenoriaeth Addysg ar gyfer 2022-2025 a strategaeth Addysg Sir Gâr 2022-2032. Mae strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cynnwys set o feini prawf hyfywedd a buddsoddi i sicrhau dull priodol a thryloyw o ddatblygu trefniadaeth ysgolion a chynigion buddsoddi.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies- Yr Aelod Cabinet Dros Addysg a'r Gymraeg,
Ers ei sefydlu yn 2004, mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael cydnabyddiaeth eang am ei gweledigaeth strategol, ei chynlluniau trawsffurfiol a'i hanes clodwiw o ran llwyddo i gyflawni. Mae'n bwysig iawn felly ein bod yn ymgynghori â phreswylwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod ein Rhaglen Moderneiddio Addysg yn bodloni anghenion cenedlaethau'r dyfodol Sir Gaerfyrddin."
Mae gan y Rhaglen Moderneiddio Addysg ran amlwg yn Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor sy'n pennu’r cyfeiriad i’r awdurdod lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan ymgorffori ein nodau gwella a llesiant fel y’u diffinnir gan ddeddfwriaeth:
Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda).
Mae hefyd gan y Rhaglen Moderneiddio Addysg rôl sylweddol i'w chwarae yn Natganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027.
Bydd yr Ymgynghoriad ar Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cau am 12pm ddydd Mawrth, 12 Mawrth 2024.