Disgyblion Ysgol Pen-bre yn symud i adeilad newydd sbon
293 diwrnod yn ôl
Dychwelodd plant, athrawon a staff Ysgol Pen-bre o'u gwyliau hanner tymor i adeilad newydd sbon ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024.
Mae lleoedd ar gyfer 270 o ddisgyblion cynradd a 30 o leoedd meithrin yn yr adeilad ysgol gynradd newydd, ar gyfer dysgwyr 3-11 oed. Mae wedi'i gyflwyno fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru, buddsoddiad Band B.
Wedi'i hadeiladu ar dir ger hen safle'r ysgol, mae'r ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ac ystafelloedd o'r radd flaenaf i ddisgyblion a staff. Mae'r cyfleuster Dechrau'n Deg, a oedd wedi'i leoli mewn ystafell ddosbarth symudol ar wahân ar hen safle'r ysgol, wedi cael ei gynnwys yn adeilad newydd yr ysgol o dan yr unto.
Codwyd yr adeilad gan gontractwyr lleol, TRJ (Betws) Cyf.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
Mae'n bleser gweld plant, athrawon a staff Ysgol Pen-bre yn cael adeilad ysgol newydd sbon. Mae'r adnodd gwych hwn yn addas i'r 21ain ganrif ac rwy'n hyderus y bydd pawb yn hapus yn yr amgylchedd dysgu newydd hwn.”
Bydd agoriad swyddogol Ysgol Pen-bre yn digwydd yn ddiweddarach eleni.