Cyngor yn mynd i'r afael â throseddau tipio anghyfreithlon, sbwriel a baw cŵn

204 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel a gadael baw ci, a chyflwynwyd hysbysiadau cosb benodedig gwerth cyfanswm o £2,400 drwy gydol mis Ionawr.

Cyflwynwyd yr hysbysiadau cosb benodedig canlynol o £125 am droseddau sbwriel:

  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Lwynhendy am waredu bag plastig yng nghyfleuster ailgylchu gwydr Morrisons, Llanelli
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Borth Tywyn am waredu blwch cardbord yng nghyfleuster ailgylchu gwydr Porth Tywyn
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Birmingham am daflu potel blastig o'i gerbyd ar yr A40 ger Llanymddyfri
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o'r Pwll am adael hambwrdd pobi ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu gwydr Porth Tywyn
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Lanelli am daflu stwmp sigarét ar y llawr yn Stryd Vaughan, Llanelli
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Landyfân am daflu stwmp sigarét ar y llawr ger Tesco, Rhydaman
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Landysul am daflu stwmp sigarét o ffenestr ei gerbyd yn nhref Caerfyrddin
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Borth Tywyn am adael eitem ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu gwydr Porth Tywyn

Cyflwynwyd dau hysbysiad cosb benodedig o £400 hefyd:

  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o'r Bynea am waredu tri bag glas o wastraff y cartref ym maes parcio arhosiad hir Llwybr Arfordirol y Mileniwm
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o'r Alban oedd yn ymweld â theulu yn Sir Gaerfyrddin am adael saith bag sbwriel yn cynnwys gwastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu gwydr Porth Tywyn

Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig o £100 hefyd i rywun o Stryd y Môr, Llanelli am fethu â chodi baw ei gi wrth gerdded ym Mharc y Goron, Stryd Caroline, Llanelli

Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref o £300 i rywun o Gaerfyrddin a dalodd ffrind i waredu dau fag glas yn llawn o'i gwastraff cartref. Cafwyd hyd i'r gwastraff hwn wedyn ym maes parcio'r Co-op yng Nghydweli.

Cyflwynwyd yr hysbysiadau cosb benodedig canlynol o £100 am fethu â chydymffurfio â hysbysiad cynhwysydd gwastraff (aelwyd):

  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Stryd Elisabeth, Llanelli am fethu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  Rhoddodd yr unigolyn dan sylw yr eitemau anghywir mewn bagiau a rhoddodd fagiau du allan yn yr wythnos anghywir.
  • Cyflwynwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Faesgolau, Llanelli am fethu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Parhaodd y preswylydd i osod yr eitemau anghywir yn ei fagiau ailgylchu glas er iddo dderbyn yr hysbysiad, ac o ganlyniad cafodd hysbysiad cosb benodedig.

Cyflwynwyd 24 o hysbysiadau ym mis Ionawr o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i breswylwyr yn y sir am fethu â chydymffurfio â chynllun casglu gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin.

Hefyd cyflwynwyd hysbysiad i fusnes yn Rhydaman o dan Adran 47 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi mesurau ar waith i gludwr gwastraff awdurdodedig gasglu a gwaredu ei wastraff.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol y Cyngor yn parhau i weithio'n rhagweithiol i atal troseddau amgylcheddol ledled Sir Gaerfyrddin. Rwy’n annog pobl i'n helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân drwy gael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol a defnyddio'r gwasanaeth casglu gwastraff y cartref yn gywir.”