Cyngor llawn yn cymeradwyo cynigion cyllideb 2024-25
294 diwrnod yn ôl
Mae Strategaeth Cyllideb 2024-25 Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ei chymeradwyo yng nghyfarfod llawn y Cyngor heddiw, 28 Chwefror 2024.
Cyflwynwyd y Strategaeth Cyllideb i’r Cyngor llawn gan Gabinet y Cyngor yn dilyn nifer fawr o ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus helaeth.
Er bod gostyngiadau arfaethedig i gyllidebau dirprwyedig yr ysgolion a'r gyllideb cyfleusterau cyhoeddus yn aros, mae'r Cyngor wedi gohirio cyflwyno'r toriadau'n llawn ar gyfer y cyllidebau hynny tan 2025/26. Yn ogystal â hyn, mae aelodau’r Cyngor hefyd wedi cymeradwyo cynyddu'r dreth gyngor 7.5%, er mwyn osgoi cwtogi mewn gwasanaethau penodol, fel priffyrdd.
Wrth baratoi cyllideb heriol iawn arall, gwahoddodd Cyngor Sir Caerfyrddin y cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb i fynegi eu barn ar, er enghraifft, gynnydd yn y dreth gyngor, cyllideb staffio, canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, trafnidiaeth addysg, cyfleusterau cyhoeddus, a darpariaeth addysgol ac ieuenctid. Ymatebodd bron i 4,300 o bobl i'r ymgynghoriad ar-lein, ac fe ddaeth 66 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd y sir i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir i drafod ag Aelodau'r Cabinet a mynegi eu blaenoriaethau.
Mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r newidiadau canlynol i gynigion Cyllideb y Cyngor:
- Codiad o 7.5% yn y Dreth Gyngor. Dim ond 25% o Gyllideb Refeniw Net y Cyngor o £470m sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Daw'r balans sy'n weddill o'r grant Cymorth Refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru a'r Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.
- Gohirio arbediad o £1 miliwn o gyllideb ddirprwyedig yr ysgolion tan 2025/26.
- Gohirio gostyngiad o £210,000 yng nghyllideb cyfleusterau cyhoeddus y Cyngor tan 2025/26, hyd nes yr ymgynghori ynghylch yr opsiwn o drosglwyddo asedau.
- Gohirio gostyngiad o £100,000 i'r Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid tan 2025/26.
- Gohirio gostyngiad o £100,000 i gyllideb y Gwasanaeth Cerdd tan 2025/26.
- Gohirio mwy na £400,000 o ostyngiadau i gyllidebau cynnal a chadw priffyrdd a draeniau tan 2025/26.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, fel pob awdurdod lleol, yn wynebu pwysau ariannol ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen. Mae ffactorau megis graddfa chwyddiant yn cysoni ac, o ganlyniad, codiadau cyflog uwch na'r disgwyl i weithwyr y Cyngor ac athrawon, ynghyd â chynnydd eithriadol yn y galw am wasanaethau mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, gofal oedolion a phlant, wedi rhoi bod i ddiffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2024/25.
Yn dilyn setliad cyllido is na chwyddiant Llywodraeth Cymru o 3.3%, a gyhoeddwyd ar 20 Rhagfyr, mae angen i'r Cyngor bontio diffyg o dros £22 miliwn yn ei gyllideb ar gyfer 2024/2025.
Bu i Lywodraeth Cymru gydnabod iddi wynebu'r "dewisiadau cyllideb mwyaf llym a phoenus i Gymru yn yr oes ddatganoli" wrth baratoi ei chyllideb ddrafft, sy'n cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (RSG) hollbwysig a ddyrannwyd i awdurdodau lleol. Mae'r cynnydd o 3.3% yn yr RSG, sy'n cyfrif am tua thri chwarter cyllid Cyngor Sir Caerfyrddin, yn brin iawn o'r cyfraniad sydd ei angen ar y Cyngor i gynnal y gwasanaethau fel y maent ar hyn o bryd. Daw'r rhan fwyaf o'r incwm sy'n weddill, sy'n cyfateb i tua chwarter cyfanswm y gyllideb refeniw flynyddol, o'r Dreth Gyngor, sy'n codi dros £120 miliwn y flwyddyn.
Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys yn flynyddol, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau megis yr RSG, y Dreth Gyngor, grantiau a gwasanaethau y telir amdanynt yn ddigon i dalu am ei wariant.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:
Mae'r pwysau enfawr sydd ar gynghorau lleol oherwydd cyllid annigonol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ers dros ddegawd, ac mae bellach ar lefel uwch nag erioed.
Yn Sir Gaerfyrddin, rydym tua £120m yn waeth ein byd nag yr oeddem yn 2010. Mae hynny'n golygu £120m yn llai i'w wario ar ofal cymdeithasol, ysgolion, priffyrdd ac ati. Bu i'r dyraniad Grant Cynnal Refeniw ar gyfer eleni, yr ydym yn dibynnu arno am 75% o'n hincwm, gynyddu 3.3%, sy'n is na chwyddiant ac nad yw'n dod yn agos at gwrdd â'n costau, sy'n uwch.
Er gwaethaf hyn, mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar y Cyngor i bennu cyllideb gytbwys flynyddol drwy sicrhau bod incwm yn ddigon ar gyfer ei wariant. Y dewis arall fyddai methdalwriaeth, ac mae hynny wedi digwydd i sawl Cyngor yn Lloegr. Mae hynny wedi arwain at golli cannoedd o swyddi a chodiadau enfawr yn y dreth gyngor.
Dim ond trwy wneud penderfyniadau cyllidebol anodd y gellir osgoi hynny. Rydym ni'n gyson yn gorfod ymdrechu i gynnal gwasanaethau hanfodol ar lefel mor uchel â phosibl i drigolion, a chydbwyso hynny yn erbyn codiadau anochel yn y dreth gyngor.
Rwy'n ddiolchgar i'r 4,300 o drigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad ac i'r bobl ifanc a lenwodd Siambr y Cyngor i ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw. Yn seiliedig ar yr ymatebion, trafododd y Cabinet yn helaeth yr opsiynau roeddem wedi'u cyflwyno i'r cyhoedd, a chynnig dyrannu £2m ychwanegol i ohirio toriadau mewn sawl gwasanaeth, fel y nodir uchod.
Er bod hyn yn lleddfu'r sefyllfa rhywfaint eleni, gresyn gen i ddweud fod y blynyddoedd nesaf yn edrych yn llwm i bob cyngor, gan ei bod yn bur debyg mai cynyddu fydd y pwysau ar wariant cyhoeddus. Ond beth bynnag wnaiff ddigwydd, gallaf sicrhau pobl Sir Gaerfyrddin y byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.”