Cyfle i dendro ar gyfer Fframwaith Gwaith Eiddo y Cyngor

206 diwrnod yn ôl

Mae busnesau sy'n arbenigo mewn gwaith eiddo, yn cael eu gwahodd i dendro am Fframwaith Gwaith Eiddo newydd Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r Cyngor yn dymuno penodi contractwyr addas eu cymhwyster i ddarparu gwaith ar eiddo, cynnal a chadw, addasiadau, gwelliannau i adeiladau a gwaith cysylltiedig arall sy’n ofynnol ar gyfer ei bortffolio eiddo tai ac eiddo nad yw’n ymwneud â thai. 

Bydd y Fframwaith yn cynnwys amrywiaeth o lawer o lotiau fesul gwerth a rhai daearyddol ar gyfer gwaith eiddo ar dai ac eiddo masnachol, yn amrywio o waith ymatebol a gwaith adeiladu bach, gwaith a gynllunnir hyd at £150k, gwaith a gynllunnir dros £150k, eiddo gwag, addasiadau, gwaith trydanol, gwaith toi, gosod lloriau, ffensio a chrefftau penodol.

Un ychwanegiad pwysig at y Fframwaith yw cynnwys lotiau ‘crefftau penodol’ ar gyfer contractwyr bychain sy’n arbenigo mewn crefftau megis gwaith coed, gosod brics, rendro, paentio ac addurno, gosod drysau a ffenestri, glanhau a chlirio eiddo a gosod siediau.

Mae tendr y Fframwaith Gwaith Eiddo nawr yn fyw a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendr yw’r 25 o Fawrth 2024.

Mae cymorth wrth law i fusnesau bach a chanolig wneud cais am le ar y Fframwaith. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth - Cefnogi busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru

Bydd Busnes Cymru hefyd yn trefnu dau ‘Gweminar Tendro Byw’ yn union yr un peth ac yn rhad ac am ddim, yn benodol ar gyfer y rhai sy’n tendro ar gyfer y Fframwaith hwn, i’w gynnal am 11yb a 2yp ar y 27 o Chwefror 2024. Bydd Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chanllawiau ar gyrchu’r e-dendr a chyflwyno cais. Mae cofrestru yn hanfodol er mwyn cadw lle ar y gweminar, felly, i gofrestru, cysylltwch â Busnes Cymru ar 01656 868500 neu drwy e-bostio: trading@businesswales.org.uk

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am gaffael a fframweithiau:

Mae ein fframwaith gwaith eiddo yn gyfle mawr i fusnesau sy'n arbenigo mewn eiddo a gwaith cysylltiedig i ennill contractau gyda'r Cyngor Sir i wneud gwaith eiddo, cynnal a chadw, addasiadau a gwella adeiladau. 
Fel Cyngor, roedd yn bwysig i ni gynnwys lot 'crefft benodol' o fewn y Fframwaith gan ein bod am annog busnesau bach a chanolig lleol i wneud cais am y fframwaith, gan y byddai'r arian y byddwn yn ei fuddsoddi mewn seilwaith dros y tair blynedd nesaf wedyn yn treiddio'n ddyfnach i'r economi leol.”

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith a sut i gyrchu’r tendr a’r dogfennau cysylltiedig, yn ogystal â chyflwyno cais, gweler Hysbysiad y Contract ar wefan GwerthwchiGymru