Cronfa Ddigwyddiadau newydd ar gyfer Deg Tref wledig Sir Gaerfyrddin
316 diwrnod yn ôl
Mae cymorth ariannol bellach ar gael i ddatblygu digwyddiadau yng nghanol trefi gwledig i ddenu a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar draws deg tref farchnad y Sir.
Fel rhan o Raglen 10 Tref Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n ceisio cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi marchnad gwledig ledled y Sir, mae'r gronfa newydd hon bellach ar agor ar gyfer ceisiadau ar ôl derbyn cymorth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Bydd y cynnig newydd cyffrous hwn yn rhoi cyfle i sefydliadau cymunedol ddatblygu digwyddiadau newydd sy'n denu ymwelwyr i drefi marchnad gwledig y Sir yn ogystal â chefnogi digwyddiadau sefydledig i ddatblygu elfennau newydd sy'n ychwanegu gwerth at yr hyn y maent eisoes yn ei gynnig. Gall digwyddiadau presennol wneud cais am gyllid hyd at uchafswm o £2,000, a gall digwyddiadau newydd wneud cais am hyd at uchafswm o £4,000.
Croesewir ceisiadau gan sefydliadau sy'n chwilio am gymorth i drefnu digwyddiadau yn y Deg Tref ganlynol;
- Cross Hands
- Cwmaman
- Talacharn
- Llandeilo
- Llanybydder
- Llanymddyfri
- Cydweli
- Castellnewydd Emlyn
- Sanclêr
- Hendy-gwyn ar Daf
- Bydd y gronfa yn helpu i godi proffil trefi gwledig yn Sir Gaerfyrddin, drwy gefnogi trefnwyr digwyddiadau i ysgogi'r economi leol, cynyddu nifer yr ymwelwyr yn y dref ac annog cyfranogiad cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae ein trefi gwledig eisoes yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau bywiog drwy gydol y flwyddyn sy'n dod â'r gymuned at ei gilydd ac yn cynnig cymaint o hwyl pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol. Mae digwyddiadau sefydledig fel yr Ŵyl Ddefaid yn Llanymddyfri neu Ŵyl y Synhwyrau yn Llandeilo yn denu ymwelwyr o bell sy'n aros dros nos yn ein llety i dwristiaid gan ddod ag arian gwerthfawr i'r economi leol. Ar ôl siarad gyda nifer o drefnwyr digwyddiadau, rydym yn falch iawn o lansio'r cyllid newydd hwn i gefnogi digwyddiadau newydd a digwyddiadau presennol eleni.
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 10 Mawrth 2024 am 11:59pm fan hwyraf i gael eu hystyried. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn diwedd mis Mawrth 2024 a rhaid cwblhau'r digwyddiad erbyn diwedd mis Rhagfyr 2024.
I gael rhagor o wybodaeth neu i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â RDPSirgar@sirgar.gov.uk i drafod gyda swyddog.