Bwriad i gau'r A484 wrth Droeon Henallt rhwng Caerfyrddin a Bronwydd

252 diwrnod yn ôl

Bydd yr A484 wrth Droeon Henallt, rhwng Caerfyrddin a Bronwydd, yn cael ei chau'n llwyr o ddydd Llun, 12 Chwefror ymlaen, am gyfnod o 4 wythnos, er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin wneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r briffordd.

Yn ogystal â'r gwaith hanfodol, bydd y Cyngor yn gwneud gwaith atgyweirio i systemau draenio a gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.

Bydd gwyriad llawn ar waith, gan ddefnyddio'r A484 i Saron, yr A486 i Bont-tyweli, y B4336 i Lanllwni a'r A485 yn ôl i Gaerfyrddin, ac yna'r A484 i ddychwelyd i fan sydd i'r de o'r man lle mae'r ffordd ar gau.

Oherwydd digwyddiad lleol hir-gynlluniedig, bydd yr A484 wrth Droeon Henallt yn agor dan reolaeth goleuadau traffig rhwng 12pm ddydd Iau, 22 Chwefror a 12am ddydd Llun, 26 Chwefror, ac ar ôl hynny bydd y ffordd yn cael ei chau'n llwyr unwaith eto hyd nes bydd y gwaith ar y briffyrdd wedi'i gwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae'r A484 yn ffordd strategol sy'n llwybr trafnidiaeth hanfodol drwy'r Sir. Mae'r Cyngor Sir yn dal i fuddsoddi yn yr A484 i ddiogelu ei dyfodol ac i sicrhau ei bod yn dal i fod ar agor yn y tymor hir i ddefnyddwyr y ffordd. Mae hyn yn golygu bod angen gwneud gwaith hanfodol i gynnal a chadw'r briffordd ac mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi bod hyn yn achosi rhywfaint o anghyfleustra ac yn tarfu ar bobl yn y tymor byr. Gofynnwn i bobl fod yn amyneddgar wrth inni gyflawni'r gwaith hanfodol hwn a gaiff ei gwblhau gennym cyn gynted â phosibl.”