Busnes Cymru i gynnal Gweminarau Tendro Byw am Ddim – 27 Chwefror

298 diwrnod yn ôl

Ddydd Mawrth, 27 Chwefror, bydd Busnes Cymru yn cyflwyno dwy weminar tendr byw, union yr un fath, yn rhad ac am ddim, yn benodol ar gyfer busnesau sy'n tendro ar gyfer Fframwaith Gwaith Eiddo Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r Cyngor Sir yn gwahodd busnesau sy'n arbenigo mewn eiddo a gwaith cysylltiedig i dendro am ei Fframwaith Gwaith Eiddo newydd. Bydd cyngor ac arweiniad ar sut i gael mynediad at yr e-dendro a chyflwyno cais ar gael gan Busnes Cymru, drwy'r Gweminarau Tendro Byw hyn.

Bydd y gweminarau'n cael eu cynnal am 11am a 2pm, mae cofrestru'n hanfodol er mwyn cadw lle ar y weminar. I gofrestru ar gyfer un o'r slotiau amser, cysylltwch â Busnes Cymru drwy ffonio 01656 868500 neu e-bostiwch trading@businesswales.org.uk

Mae’r Cyngor yn dymuno penodi contractwyr addas eu cymhwyster i ddarparu gwaith ar eiddo, cynnal a chadw, addasiadau, gwelliannau i adeiladau a gwaith cysylltiedig arall sy’n ofynnol ar gyfer ei bortffolio eiddo tai ac eiddo nad yw’n ymwneud â thai. 

Bydd y Fframwaith yn cynnwys amrywiaeth o lawer o lotiau fesul gwerth a rhai daearyddol ar gyfer gwaith eiddo ar dai ac eiddo masnachol, yn amrywio o waith ymatebol a gwaith adeiladu bach, gwaith a gynllunnir hyd at £150k, gwaith a gynllunnir dros £150k, eiddo gwag, addasiadau, gwaith trydanol, gwaith toi, gosod lloriau, ffensio a chrefftau penodol.

Un ychwanegiad pwysig at y Fframwaith yw cynnwys lotiau ‘crefftau penodol’ ar gyfer contractwyr bychain sy’n arbenigo mewn crefftau megis gwaith coed, gosod brics, rendro, paentio ac addurno, gosod drysau a ffenestri, glanhau a chlirio eiddo a gosod siediau.

Mae tendr y Fframwaith Gwaith Eiddo nawr yn fyw a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendr yw’r 25 o Fawrth 2024.

Mae cymorth wrth law i fusnesau bach a chanolig wneud cais am le ar y Fframwaith. Ewch i wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth - Cefnogi busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am gaffael a fframweithiau:

Mae ein fframwaith gwaith eiddo yn gyfle mawr i fusnesau sy'n arbenigo mewn eiddo a gwaith cysylltiedig i ennill contractau gyda'r Cyngor Sir i wneud gwaith eiddo, cynnal a chadw, addasiadau a gwella adeiladau. 
Fel Cyngor, roedd yn bwysig i ni gynnwys lot 'crefft benodol' o fewn y Fframwaith gan ein bod am annog busnesau bach a chanolig lleol i wneud cais am y fframwaith, gan y byddai'r arian y byddwn yn ei fuddsoddi mewn seilwaith dros y tair blynedd nesaf wedyn yn treiddio'n ddyfnach i'r economi leol.”

I gael rhagor o fanylion am y Fframwaith a sut i gyrchu’r tendr a’r dogfennau cysylltiedig, yn ogystal â chyflwyno cais, gweler Hysbysiad y Contract ar wefan GwerthwchiGymru