Arddangosfa 'Chwarter Canrif o Drysorau' yn agor yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

190 diwrnod yn ôl

Mae gwrthrychau hardd sy'n dyddio o hyd at 5,000 o flynyddoedd yn ôl, o'r Oes Efydd hyd at ein dydd ni heddiw, yn awr i'w gweld mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Agorodd arddangosfa Chwarter Canrif o Drysorau: Y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru i'r cyhoedd ddydd Sadwrn 3 Chwefror 2024 a bydd i'w gweld tan ddydd Gwener 3 Mai 2024. Mae mynediad i'r amgueddfa yn rhad ac am ddim.

Mae'r arddangosfa'n dathlu gwaith y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) drwy arddangos rhai o'r trysorau archeolegol mwyaf rhyfeddol a ddaeth i sylw'r Cynllun yng Nghymru ers iddo ddechrau ym 1999.

Mae'r cynllun yng Nghymru yn bartneriaeth dan arweiniad Amgueddfa Cymru ac yn Lloegr mae'n bartneriaeth dan arweiniad yr Amgueddfa Brydeinig. Nod y cynllun yw bod gwrthrychau archeolegol a ddarganfyddir gan ddatgelyddion metel ac aelodau eraill o'r cyhoedd yn cael eu cofnodi, gan gynnwys rhai darganfyddiadau a ystyrir yn gyfreithiol yn drysorau ac sy'n dod o dan Ddeddf Trysorau 1996. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae PAS Cymru wedi cofnodi dros 90,000 o wrthrychau, gan gynnwys darnau arian, gemwaith ac arfau. Mae'r arddangosfa'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio rhwng archeolegwyr a datgelyddion metel.

Bydd yna weithgareddau cyffrous sy'n addas i deuluoedd yn rhan o'r arddangosfa. Byddwch yn archeolegydd trwy ddod o hyd i'r holl ddarnau arian ar drywydd archeoleg o amgylch yr amgueddfa. Gwisgwch eich siacedi cloddio a darganfyddwch drysor gan ddefnyddio synwyryddion metel bach. Neu beth am gyffwrdd y gorffennol a darganfod casgliad trin a thrafod yr amgueddfa.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae'r arddangosfa ddifyr a rhad ac am ddim hon yn nodi canlyniad partneriaeth lwyddiannus gyda'r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru a bydd yn brofiad cyfareddol i ymwelwyr.
Mae gan Sir Gaerfyrddin draddodiad hir o ddefnyddio ei chyfoeth o adnoddau naturiol i greu pethau hardd a defnyddiol.Mae'r gwrthrychau a gaiff eu harddangos yma yn dangos gofal a chrefftwaith pobl o Gymru drwy gydol hanes a byddant yn ysbrydoli ymwelwyr o bob oed i greu a darganfod drostynt eu hunain.

Ewch i wefan CofGâr i gael rhagor o wybodaeth am amserau agor a digwyddiadau'r amgueddfa.