Actif yn lansio menter Pêl-droed Stryd
302 diwrnod yn ôl
Mae Chwaraeon a Hamdden Actif wedi lansio eu menter Pêl-droed Stryd, mewn partneriaeth ag ymgynghorwyr tai Cyngor Sir Caerfyrddin. Nod y rhaglen yw cefnogi unigolion sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref drwy ddefnyddio chwaraeon i wella eu hiechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Fel rhan o'r sesiynau hyn, bydd sefydliadau amrywiol, sy'n cynnwys ymgynghorwyr tai ac elusennau iechyd meddwl, yn bresennol i roi cymorth i unigolion sydd ei angen. Nod y sesiynau yw creu lle cefnogol a chynhwysol, lle gall cyfranogwyr ddod yn fwy egnïol drwy chwarae pêl-droed, gan wella eu hiechyd cyffredinol ac elwa ar arbenigedd ymgynghorwyr tai ar yr un pryd.
Mae'r fenter hefyd yn ffordd i ymgynghorwyr tai gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag unigolion sydd mewn perygl bob wythnos, sy'n golygu bod modd rhoi cymorth ac arweiniad parhaus iddynt wrth eu cefnogi ar eu taith tuag at sefyllfa sefydlog o ran tai. Y tu hwnt i hyn, bydd y fenter yn darparu haen ychwanegol o gymorth drwy gynnig pryd o fwyd wedi'i goginio i'r rhai sy'n cymryd rhan.
Cynhelir y sesiynau bob wythnos ac maent wedi dechrau yn y lleoliadau canlynol:
Canolfan Hamdden Rhydaman: Ar ddydd Mercher am 16:30
Canolfan Hamdden Llanelli: Ar ddydd Gwener am 12 canol dydd.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Bydd y gwaith y mae Actif yn ei wneud yn helpu i sicrhau bod unigolion sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yn gallu mynd i le nid yn unig i fwynhau amgylchedd hollgynhwysol sy'n cael ei hwyluso drwy chwaraeon ond hefyd i gael mynediad at y math cywir o wasanaethau a fydd yn eu helpu.
I gael mwy o wybodaeth am sut mae'r fenter Pêl-droed Stryd yn cael ei rhoi ar waith ledled Cymru, ewch i'w gwefan: