Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli yn lansio cynllun y Bocs Bwyd

225 diwrnod yn ôl

Mae disgyblion, athrawon a staff Ysgol Gymraeg Dewi Sant wedi agor yn swyddogol rhaglen rhannu bwyd newydd sbon o'r enw Bocs Bwyd.

Ar hyn o bryd mae gardd Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn cefnogi disgyblion o ran eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth am fwyd iach a maethlon. Bydd cynllun y Bocs Bwyd yn cynnwys cynnyrch o'u gardd a fydd ar gael i'r gymuned leol. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun Bocs Bwyd, yn cefnogi'r ysgol i ymestyn ei phecyn cymorth i rieni a pharhau i ddatblygu ei rôl yn y gymuned.

Yn ystod y broses gyffrous o baratoi gardd y Bocs Bwyd, bu disgyblion yn cydweithio â'r artist graffiti lleol 'Jenks' i drawsnewid hen gynhwysydd cludo ar longau yn siop Bocs Bwyd lliwgar.

Yn unol â chwricwlwm Ysgol Dewi Sant, mae disgyblion yn cael mynediad i sesiynau wythnosol yng ngardd yr ysgol lle maent yn tyfu, cynnal a pharatoi cynnyrch ar gyfer cynllun y Bocs Bwyd.

Bydd Castell Howell yn cefnogi'r cynllun yn hael drwy ddarparu bwyd i gynllun Bocs Bwyd yr ysgol yn wythnosol.

Bydd Bocs Bwyd Ysgol Dewi Sant yn agor ddwywaith yr wythnos yn y lle cyntaf er mwyn i bobl o'r gymuned ddod i 'dalu'r hyn maen nhw'n dymuno' am y cynnyrch.

Amseroedd Agor Bocs Bwyd:

Dydd Llun - 3:15pm-4pm

Dydd Iau, 3:15pm-4pm

Mae’r prosiect Big Bocs Bwyd yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n darparu cysylltiadau gwerthfawr gyda'r gymuned leol ac yn cefnogi datblygiad llythrennedd bwyd mewn ysgolion.

Mae'r fenter yn cefnogi uchelgais y Cyngor i ddod yn awdurdod lleol sero-net trwy leihau'n sylweddol y milltiroedd y mae cynnyrch yn teithio, o'r pridd i'r plât, sydd ar gael i'w gymunedau. Mae prosiectau Bocs Bwyd hefyd wedi'u cyflwyno yn Ysgol Bro Banw ac Ysgol Llandeilo tra bod pedwerydd cynllun ar fin cael ei gyflwyno yn Ysgol Trimsaran.

Mae cyflwyno cynllun Bocs Bwyd yn cyd-fynd ag Amcan Llesiant 1 Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd; ac Amcan Llesiant 3, i alluogi ein cymunedau a'r amgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus.

Dywedodd Mrs Helen Garland, Prifathrawes dros dro Ysgol Gymraeg Dewi Sant:

Edrychwn ymlaen at gefnogi ein teuluoedd a'n cymuned yn ehangach wrth i'r disgyblion ddysgu sgiliau bywyd gwerthfawr."

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd, Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae'n wych gweld ein plant, dyfodol Sir Gaerfyrddin, yn dysgu o lygad y ffynnon am bwysigrwydd bwyd iach a maethlon a sut y gellir ei gynhyrchu'n gynaliadwy ac er budd y gymuned leol.
Fel Cabinet, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n hysgolion i addysgu dysgwyr am gynhyrchu bwyd a sut i goginio prydau iach gan ddefnyddio cynnyrch lleol - ac mae cynllun y Bocs Bwyd yn gynllun ardderchog i'n helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg Cyngor Sir Caerfyrddin:

Nod cynllun y Bocs Bwyd yw datblygu llythrennedd bwyd yn ein hysgolion ac felly sicrhau bod ein plant yn unigolion iach a hyderus sy'n wybodus yn foesegol i wneud dewisiadau bwyd da ar gyfer y dyfodol.
Gyda theuluoedd ledled y wlad yn gorfod cadw llygad ar sut mae pob ceiniog yn cael ei gwario, mae mentrau fel y Bocs Bwyd yn hynod werthfawr gan eu bod yn caniatáu i ysgol ymestyn ei phecyn cymorth i rieni a pharhau i ddatblygu ei rôl yn y y gymuned.”