Y Cyngor yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt

246 diwrnod yn ôl

Yn dilyn glaw trwm na welwyd ei debyg o'r blaen ar 30 Rhagfyr a 2 Ionawr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gefnogi cymunedau a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Llansteffan a Glanyfferi.

O ran Llansteffan yn benodol, mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, ac mae gwaith cloddio wedi digwydd ar y traeth i liniaru effeithiau'r llifogydd cyn gynted â phosibl drwy annog llifddwr i ddianc yn fwy rhydd.

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar waredu'r dŵr, defnyddiodd Dŵr Cymru bwmp yn Llansteffan, a chafodd adnoddau ychwanegol eu darparu gan y Cyngor.

Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y seilwaith draenio wedi methu. Mae maint y dŵr sydd wedi mynd i mewn i'n systemau dros gyfnod cymharol fyr yn fwy nag y gall y seilwaith a'r cyrsiau dŵr ddygymod ag ef, gan lifo dros lannau Nant Jac a boddi seilwaith draenio Cyngor Sir Caerfyrddin a Dŵr Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae lefelau llifddwr bellach wedi gostwng yn Llansteffan ac mewn mannau eraill yn gyffredinol, sydd wedi caniatáu i ni newid ein ffocws i waith adfer a glanhau yn ogystal â rhoi cymorth yn y gymuned lle bo modd i ymadfer yn dilyn y digwyddiad hwn.  Byddem yn annog unrhyw un sy'n glanhau ar ôl llifogydd i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd i'w weld ar ei wefan.
Mae ein timau priffyrdd yn gweithio i gynnal y rhwydwaith priffyrdd, sydd wedi cael ei ddifrodi'n sylweddol, ac mae gwaith atgyweirio eisoes wedi dechrau ar rannau o’r rhwydwaith i sicrhau bod modd cyrraedd cymunedau.
Hoffem sicrhau trigolion y bydd y Cyngor yn darparu cyngor a chymorth i'r rhai y mae llifogydd wedi effeithio'n sylweddol arnynt ac yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod heriol iawn i'r rhai yr effeithir arnynt.
Rydym ni a sefydliadau partner yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda busnesau a chymunedau lleol i reoli perygl llifogydd ac addasu i newid yn yr hinsawdd”.