Straeon gofalwyr maeth Sir Gaerfyrddin yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth

243 diwrnod yn ôl

Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol.

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Yn Sir Gaerfyrddin, mae 100 o ofalwyr maeth yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ond mae angen mwy.

Heddiw, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda'r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.

Mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin wedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘gall pawb gynnig rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd”

Rhannodd Jo ac Emma, gofalwyr maeth yn Sir Gaerfyrddin, eu profiad fel rhan o'r ymgyrch newydd.

Eglurodd y pâr sut mae maethu wedi dod â'r holl brofiad y maent wedi'i gael mewn swyddi blaenorol wrth weithio gyda phobl ifanc at ei gilydd, a'u bod wedi gallu defnyddio'r sgiliau hyn i helpu plentyn sydd wedi cael dechrau heriol.

Mae maethu wedi rhoi boddhad mawr i ni, o helpu ein plentyn maeth i brofi pethau newydd i weld faint o gynnydd y mae wedi'i wneud - yn enwedig yn yr ysgol, lle rydym wedi cael llawer o adborth sy'n dweud ei fod wedi gwella'n sylweddol.
Dwi'n meddwl bod pobl yn ofnus am fod ganddynt swydd brysur neu deulu prysur yn barod a'u bod yn credu y bydd yn amhosibl, neu nid ydynt yn ystyried maethu gan eu bod yn credu y bydd yn anodd iawn, ond mae llawer o gefnogaeth ar gael. 
Gallwch siarad â'ch cyd-ofalwyr maeth, creu cymuned a helpu eich gilydd. Gyda'r system gefnogaeth hon, rydych chi'n teimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun. Oherwydd weithiau byddwch chi'n meddwl, 'Ydw i'n gwneud hyn yn iawn?' ac mae'n braf sgwrsio â gofalwyr eraill sydd yn yr un sefyllfa â chi. Gallwch chi chwerthin am y cyfan ac mae hynny'n bwysig hefyd.” 

Mae Cymru ar flaen y gad ym maes gwasanaethau plant 

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

 

Parhaodd Jo:

Peidiwch â chael eich dal yn ôl gan feddwl nad ydych chi'n ddigon da. Rydyn ni i gyd wedi byw ein bywydau, mae gennym hanesion a gorffennol, ond rydych chi'n cynnig llwyth o brofiad, a gall yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu o'ch 'camgymeriadau' fod yn fuddiol dros ben i blant a phobl ifanc. 
Gallwch faethu fel person sengl, fel pâr o'r un rhyw, gallwch ei wneud os ydych chi'n ddyn, yn fenyw ar eich pen eich hun ac os ydych chi'n hŷn. Mae Maethu Cymru yn cynnal boreau gwybodaeth yn rheolaidd. Felly, byddwn i'n dweud wrthych am ddod draw i sgwrsio â gofalwyr maeth a dysgu sut mae'r cyfan yn gweithio.” 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae'n amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd y gwaith y mae gofalwyr maeth yn Sir Gaerfyrddin yn ei wneud i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant yn eu cymuned leol.
Fel awdurdod lleol, rydym yn llwyr gefnogi'r ymgyrch 'Gall pawb gynnig rhywbeth' a gallwn gefnogi gofalwyr maeth trwy ddarparu popeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu ar eich taith i adeiladu dyfodol gwell ar gyfer plant lleol, o hyfforddiant arbenigol a chefnogaeth i lwfansau ariannol."

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar draws teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i:

https://maethucymru.llyw.cymru/