Pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn craffu ar gynigion cyllideb y Cyngor

225 diwrnod yn ôl

Daeth disgyblion Blwyddyn 10-13 o 10 ysgol yn y sir i ddigwyddiad blynyddol Golwg Sir Gâr Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd â'r nod o rymuso arweinwyr y dyfodol.

Cynhaliwyd Golwg Sir Gâr 2024 yn Neuadd y Sir ar 25 Ionawr gan gynnig cyfle unigryw i'r 66 o bobl ifanc a oedd yn bresennol ymchwilio i'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau polisi ynghylch y gyllideb yn y Cyngor.

Yn ystod y digwyddiad, rhannwyd y myfyrwyr yn dimau a gofynnwyd iddynt gamu i le Aelodau Cabinet y Cyngor i gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, paratoadau a chyflwyniadau trwy gydol y dydd.

Rhoddodd y profiad ymarferol gipolwg gwerthfawr i'r bobl ifanc ar rolau a chyfrifoldebau Aelodau Cabinet, yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysfawr ynghylch sut mae'r awdurdod lleol yn gweithredu ac yn dyrannu ei adnoddau.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, yn enwedig wrth i'r Cyngor wynebu penderfyniadau heriol ynghylch y gyllideb arfaethedig.

Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd â'r ymgynghoriad ar gyllideb Cyngor Sir Caerfyrddin, sy'n cau ddydd Sul, 28 Ionawr, wrth iddo geisio adborth gan y myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan i lywio ac arwain yr Aelodau Cabinet i wneud penderfyniadau gwybodus.

Mae Golwg Sir Gâr 2024 hefyd yn cefnogi amcan llesiant cyntaf y Cyngor, sef galluogi plant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Ar ôl y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor: “Mae heddiw wedi bod yn gyfle arbennig i ni wrando ar leisiau ac ar farn disgyblion o ysgolion ar draws Sir Gaerfyrddin wrth i nhw fwydo mewn eu barn ar ein cyllideb ni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mi oedd yna syniadau diddorol dros ben yn dod drosto ac wrth gwrs byddwn ni’n derbyn hynny nawr ac yn meddwl am y syniadau hynny wrth i ni ddatblygu’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.”