Marwolaethau anesboniadwy Elyrch Dof a Hwyaid Gwyllt

227 diwrnod yn ôl

Mae swyddogion Gwasanaeth Hamdden Awyr Agored Cyngor Sir Caerfyrddin yn poeni fwyfwy am nifer marwolaethau anesboniadwy elyrch dof a hwyaid gwyllt mewn pyllau a llynnoedd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, ac mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed Powys, Tîm Troseddau Cefn Gwlad, a Swyddog Bywyd Gwyllt Cyfoeth Naturiol Cymru i ymchwilio i'r marwolaethau hyn.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer o garcasau wedi eu darganfod sy'n ymddangos fel petaent wedi cael eu lladd yn fwriadol yn hytrach na chael eu lladd gan ysglyfaethwyr fel cadnoid.

Mae elyrch dof wedi'u hamddiffyn rhag cael eu niweidio a chaniateir hela hwyaid gwyllt mewn amgylchiadau penodol yn unig, felly mae'r holl fywyd gwyllt ar eiddo'r Cyngor Sir wedi'i warchod rhag aflonyddwch neu niwed.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae lladd bywyd gwyllt ar eiddo'r Cyngor Sir yn drosedd ddifrifol a byddwn yn ymchwilio'n llawn gyda'n partneriaid a byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i roi gwybod i'r Heddlu am unrhyw weithgaredd amheus ar unwaith.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai helpu ymholiadau, cysylltwch â'r heddlu:

Ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/

E-bost: 101@dyfed-powys.police.uk

Ffoniwch: 101

Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif ar gyfer achosion nad ydyn nhw'n rhai brys, sef 07811 311 908.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng.