Gwaith yn dechrau i adeiladu seilwaith teithio llesol o ansawdd uchel yn Nafen, Llanelli
340 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau gwaith i wella'r llwybr teithio llesol a'r groesfan ar hyd Exchange Row a'r B4304 yn Nafen, Llanelli.
Yn lleol, bydd y gwaith yn ei gwneud yn fwy diogel i groesi'r B4303 yn ogystal â darparu gwell cysylltiadau ymlaen fel rhan o Brif Lwybr Llanelli arfaethedig. Mae'r llwybr yn ceisio darparu llwybr o ansawdd uchel i feicwyr a cherddwyr ar gyfer cymudwyr a phlant ysgol gyda chysylltiadau â safleoedd cyflogaeth, ysbytai ac ysgolion lleol. Yn y pen draw, bydd y llwybr yn rhedeg rhwng yr Hendy a Llwybr Arfordirol y Mileniwm gyda chysylltiadau â datblygiad parhaus Pentre Awel.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Teithio Llesol ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cyllid drwy broses ymgeisio gystadleuol genedlaethol. Dim ond at ddibenion seilwaith Teithio Llesol newydd / gwell y gellir defnyddio'r cyllid. Mae'r dyluniad, sy'n cynnwys Exchange Row a'r B4303 yn unol ag egwyddorion Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.
Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd angen cau ffyrdd yn llawn ar ddydd Sul 21 Ionawr, a chau lonydd yn rhannol am 4 diwrnod rhwng dydd Llun 22 Ionawr a dydd Iau 25 Ionawr. Yn ystod y cyfnod hwn bydd system unffordd ar gyfer defnyddwyr y ffordd, a chaniateir i draffig fynd allan i'r gylchfan ond nid i mewn. Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch drwy gydol y cyfnod adeiladu.
Fel rhan o'r cynllun, bydd y groesfan i gerddwyr yn Exchange Row, sy'n arwain at y gylchfan, yn cael ei huwchraddio. Mae'r groesfan hon yn arbennig o bwysig gan ei bod yn cael ei defnyddio llawer gan ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgolion lleol a bydd hefyd yn helpu i leddfu pryderon diogelwch ar y ffyrdd yn yr ardal.
Mae'r gwaith o adeiladu'r llwybr newydd eisoes wedi dechrau. Yn ogystal â'r angen i gau lonydd ar ddydd Sul 21 Ionawr, bwriedir cau ffyrdd yn llawn o ddydd Sadwrn 23 Mawrth, am o leiaf wythnos i gyd-fynd â chyfnod Gwyliau'r Pasg er mwyn gosod wyneb newydd a chyrbau newydd.
Mae amserlen y cynllun fel a ganlyn:
- 08/01/24 – Cychwyn y Gwaith - Creu clos ar y safle.
- 21/01/24 – Cau ffordd yn llawn.
- 22/01/24 -Cyflwyno system draffig unffordd (cau lôn yn rhannol) am 4 diwrnod. Dydd Llun i Ddydd Iau. Bydd traffig yn cael ei ganiatáu allan o Exchange Row i'r gylchfan, ond nid i mewn.
- 23/03/24 – Cau ffordd yn llawn am isafswm o 1 wythnos i gyd-fynd â chyfnod Gwyliau'r Pasg. Bydd hyd y cyfnod cau yn cael ei leihau gymaint â phosibl. Mae hyn er mwyn caniatáu gwneud gwaith gosod wyneb a chyrbau.
- Bydd y gwaith adfer yn debygol o barhau tan ddiwedd mis Mawrth/dechrau Ebrill 2024. Yn ystod y cyfnod hwn bydd y llwybr yn cael ei ailagor yn llawn i draffig.
Mae adeiladu'r coridor teithio llesol o fewn Trydydd Amcan Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ei gymunedau a'i amgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
Hoffwn ddiolch i breswylwyr, ysgolion a busnesau Dafen, ynghyd â holl ddefnyddwyr y llwybr allweddol hwn yn ein rhwydwaith ffyrdd am eich amynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch drwy gydol y cyfnod adeiladu.
Ar ôl ei gwblhau, bydd y coridor teithio llesol hwn ar hyd Exchange Row a'r B4303 yn darparu llwybr diogel o'r radd flaenaf i gerddwyr a beicwyr i'r amwynderau lleol ac oddi yno ac yn gwasanaethu rhwydwaith teithio llesol ehangach y sir.”