Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi'i gyflwyno yng Nghanol Tref Llanelli

339 diwrnod yn ôl

Er mwyn mynd i'r afael â throseddau ac anhrefn sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau yn rhannau o Ganol Tref Llanelli, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) mewn ardal o'r dref o dan Adran 59 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Gellir gweld map o'r ardal dan sylw ar wefan y Cyngor, Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus (llyw.cymru), ac mae arwyddion wedi'u gosod yn yr ardal. Daeth y Gorchymyn i rym ar 12 Ionawr 2024 a bydd yn parhau ar waith am dair blynedd.

Mae cyflwyno'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus newydd yn dilyn adolygiad o'r Gorchymyn blaenorol gan y Cyngor a'r Heddlu, dadansoddiad o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn yr ardal, ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac ymarfer ymgynghori cyhoeddus. Canfyddiad yr adolygiad oedd bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi bod yn effeithiol o ran lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol.

Er nad yw yfed alcohol yn yr ardal ddynodedig yn drosedd, mae'r Gorchymyn yn galluogi Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i wahardd yfed alcohol ar y tir y mae'n berthnasol iddo os ydynt yn credu y bydd yfed alcohol yn arwain at gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rhai yn yr ardal. Ond mae methu â chydymffurfio â chais a wneir gan yr heddlu i roi'r gorau i yfed neu i ildio alcohol, heb esgus rhesymol, yn drosedd.

Mae pŵer newydd hefyd wedi'i gyflwyno yn y Gorchymyn i alluogi'r heddlu i'w gwneud yn ofynnol i unigolion ildio eitemau sy'n ymwneud â chyffuriau. Mae'r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y Gorchymyn hefyd wedi'i hymestyn.

Bydd methu â chydymffurfio â cheisiadau yn gyfystyr â thorri'r Gorchymyn a gallai unigolion gael eu harestio, sy'n gallu arwain at ddirwy hyd at £1000.

Nid yw'r Gorchymyn yn berthnasol i fannau cyhoeddus lle mae gwerthu ac yfed alcohol yn cael ei awdurdodi o dan ddeddfwriaeth arall, er enghraifft mewn tafarndai a chlybiau.

Bydd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:

Rwy'n ddiolchgar i'n swyddogion sydd wedi cydweithio â'r heddlu, rhanddeiliaid lleol a'r cyhoedd i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. 
Mae'r mesur hwn yn chwarae rhan bwysig yn amcan llesiant y Cyngor o ran galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus”

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Thomas, Heddlu Dyfed-Powys:

Mae'r gorchymyn, a gymeradwywyd gan ein partneriaid yn yr awdurdod lleol, yn ffordd werthfawr o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau eraill a achosir gan yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus yn ardal Llanelli.  Mae defnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ffordd lawer cyflymach a mwy effeithiol i ni fel gwasanaeth heddlu ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a achosir gan alcohol a bydd o gymorth mawr i ni o ran sicrhau bod Llanelli yn lle diogel a braf i'r gymuned gyfan.”