Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol
323 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi lansio ei Ymgynghoriad Ieuenctid, "Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol" ddydd Llun 15 Ionawr 2024.
Mae'r fenter hon, sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn rhoi'r cyfle unigryw i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ddweud eu dweud ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw. Yn ystod tymor yr hydref, gofynnwyd i fyfyrwyr ysgolion uwchradd rannu'r ddau fater pwysicaf sy'n effeithio ar eu bywydau. Yn dilyn eu trafodaethau, gwahoddwyd cynrychiolydd o bob ysgol i gyflwyno eu cynigion, gyda'r deg mater uchaf a gyflwynwyd yn cael eu cynnwys ar bapur pleidleisio Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol.
Bydd y papur pleidleisio a ystyriwyd yn ofalus ac a grëwyd gan bobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn helpu i lunio sgyrsiau ynghylch pa faterion sy'n effeithio fwyaf ar eu bywydau. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed i gymryd rhan a phleidleisio gan ddefnyddio'r ddolen hon.
Bydd y bleidlais yn pennu'r prif fater ymhlith pleidleiswyr a bydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio ar brosiectau ac ymgyrchoedd yn ymwneud â'r mater hwn, gan sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ledled y sir. Mae'r pleidleisio'n cau ddydd Gwener, 23 Chwefror 2024, a bydd y mater buddugol yn cael ei gyhoeddi yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Ebrill.
Dywedodd y Cadeirydd Lucas Palenek:
Rydyn ni eisiau clywed gan bobl ifanc o bob cefndir a phrofiad. Bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio dyfodol Sir Gaerfyrddin. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu gyda'ch holl ffrindiau fel y gallant gymryd rhan hefyd - dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned, felly peidiwch â cholli mas.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg a'r Gymraeg:
Mae'r Ymgynghoriad Ieuenctid Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol yn fenter bwysig sy'n caniatáu i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ymwneud â materion sy'n bwysig iddyn nhw. Mae'n bwysig i bobl ifanc gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol i lunio'r gymuned o'u cwmpas. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r myfyrwyr sy'n ymwneud â'r Ymgynghoriad Ieuenctid ac annog pobl ifanc eraill i gymryd rhan lle y gallant.