Cyngor yn mynd i'r afael â throseddau amgylcheddol i helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân

229 diwrnod yn ôl

Mae tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ddiogelu'r amgylchedd, a rhoddwyd cyfanswm o £2,550 mewn hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer sbwriel, tipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol eraill yn ystod mis Rhagfyr 2023.

Cyhoeddwyd yr hysbysiadau cosb benodedig £400 canlynol ar gyfer tipio anghyfreithlon:

  • I breswylydd Llandybïe am waredu saith bag sbwriel o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Porth Tywyn
  • I breswylydd Sanclêr am waredu dau fag sbwriel o wastraff y cartref oddi ar yr A40, Sanclêr

Rhoddwyd sawl hysbysiad cosb benodedig o £125 am droseddau sbwriel hefyd:

  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Caerfyrddin am waredu bag sbwriel o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Morrisons, Caerfyrddin
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Arberth am waredu bag sbwriel o wastraff y cartref ar yr A40, Sanclêr
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd am waredu bag sbwriel o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Tesco, Caerfyrddin
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd ar gyfer gwaredu stymp sigarét ar y ddaear yn Heol y Bwlch, Bynea
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Porth Tywyn am waredu bag ailgylchu glas yng nghyfleuster ailgylchu Teras Seaview, Porth Tywyn
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Caerfyrddin am waredu bag sbwriel du o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Morrisons, Caerfyrddin
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Llanllawddog am waredu bag ailgylchu glas o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Tesco, Caerfyrddin
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Cydweli am waredu bag ailgylchu glas o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Co-op, Cydweli
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Caerfyrddin am waredu bag sbwriel du o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Morrisons, Caerfyrddin
  • Hysbysiad cosb benodedig i breswylydd Caerfyrddin am ollwng cwpan diod ym Mhen-sarn, Caerfyrddin

Cyhoeddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £300 hefyd pan fethodd un o drigolion Sir Gaerfyrddin â chyflawni'r ddyletswydd gofal sydd ar drigolion pan ddaethpwyd o hyd i'w wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ger Llandeilo.

Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i breswylydd Caerfyrddin am fethu â chydymffurfio ag adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, hysbysiad daliedydd gwastraff.

Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i breswylydd Llanelli am dorri Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus am fynd i mewn i'r ardal chwarae amgaeedig i blant gyda'i gi yn Noc y Gogledd, Llanelli er bod cŵn wedi'u gwahardd o'r ardal chwarae.

Rhoddwyd 17 o hysbysiadau hefyd i breswylwyr yn y sir am fethu â chydymffurfio â chynllun casglu gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin o dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

 

Mae tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol y Cyngor yn parhau i weithio'n effeithiol ledled Sir Gaerfyrddin, sy'n amlwg yn nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a gyhoeddwyd yn ystod mis Rhagfyr.

Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ein hatgoffa na fydd sbwriel, tipio anghyfreithlon, torri Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus a throseddau amgylcheddol eraill yn cael eu goddef yn Sir Gaerfyrddin.”