Cyngor yn cymryd camau yn erbyn bridiwr cŵn anghyfreithlon
350 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd camau pendant yn erbyn Ms. Kristina Barton o Cross Hands, yn dilyn ymchwiliad helaeth i weithgareddau bridio cŵn anghyfreithlon honedig. Mae'r achos, a ddaeth i'r amlwg ar ôl nifer o gŵynion i'r Cyngor Sir a'r Heddlu gan gymdogion pryderus, wedi datgelu diystyrwch llwyr o'r rheoliadau ac achosion lu o dorri'r gyfraith.
Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Ebrill 2020 pan holodd Ms. Barton i ddechrau ynghylch trwydded bridio cŵn. Er gwaethaf cael pecyn gwybodaeth, cafwyd cwynion dilynol gan eiddo cyfagos, a arweiniodd at honiadau o fridio cŵn yn anghyfreithlon, adeiladu cytiau a stablau heb ganiatâd, sŵn cyfarth cŵn yn achosi aflonyddwch, a chŵn yn crwydro a baeddu y tu allan i'r eiddo.
Ym mis Mai 2021, datgelodd hysbyseb ar wefan Pets4Homes fod Ms. Barton yn hysbysebu torred o gŵn bach, a chafodd lythyr rhybuddio gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Fodd bynnag, gwaethygodd y sefyllfa pan dderbyniodd Heddlu Dyfed Powys ragor o gŵynion ym mis Ebrill 2022.
Bu i gais Deddf Diogelu Data, gan yr Awdurdod Lleol i Pets4Homes, ddatgelu gwybodaeth frawychus. Rhwng Mai 17, 2021 a Gorffennaf 30, 2022 bridiodd Ms. Barton gynifer â naw torred o gŵn bach a chynnig pedwar ci unigol i'w gwerthu; hyn oll heb y drwydded bridio cŵn ofynnol.
Er y cyngor a roddwyd iddi, parhau wnaeth Ms. Barton â'r bridio, a arweiniodd at gamau cyfreithiol gan y Cyngor Sir.
Penderfyniad y llys oedd rhyddhad amodol am 12 mis ar gyfer pob trosedd. Yn ariannol, mae'n rhaid i Ms. Barton dalu £26,721.12 fel arian a atafaelwyd o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002, gyda chyfnod ad-dalu o dri mis a chaniatáu ar gyfer cyfnod diffygdalu o chwe mis. Yn ogystal, mae hi'n wynebu cost fisol o £10 tuag at £500 mewn ffioedd cyfreithiol, a gordal dioddefwr o £22.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r achos hwn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cadw at reoliadau bridio cŵn a chael y trwyddedau angenrheidiol i sicrhau ein bod ni, fel Cyngor, yn gallu monitro lles yr anifeiliaid dan sylw yn gywir.