Y Cyngor yn mynd i'r afael â throseddau tipio anghyfreithlon, sbwriel a baw cŵn er mwyn helpu i Gadw Sir Gaerfyrddin yn lân

341 diwrnod yn ôl

Mae tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fynd i'r afael â'r rheiny sy'n euog o dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel neu adael baw ci, ac mae camau gorfodi diweddar wedi arwain at erlyniadau yn y llys a rhoi hysbysiadau cosb benodedig. 

Mae un o drigolion ystâd Yr Onnen, Meinciau, Cydweli wedi cael ei herlyn mewn llys ynadon am fethu â chlirio baw ei chi ar unwaith. Cafodd Cyngor Sir Caerfyrddin wybod am y digwyddiad a rhoddwyd datganiad gan dyst a arweiniodd at roi Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Methodd y preswylydd â thalu hwn o fewn yr amser penodedig. Cafwyd hi'n euog a chafodd ddirwy o £220 a gorchymyn i dalu costau o £818.60 a gordal o fewn 28 diwrnod. 

Mae rhywun sy'n byw yng Nghaerfyrddin wedi cael ei erlyn mewn llys ynadon am daflu bonyn sigarét ym maes parcio Morrisons yng Nghaerfyrddin, gyda Swyddogion Gorfodi Materion Amgylcheddol yn dyst i'r digwyddiad. Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig o £125 iddo ond methodd â thalu hwn o fewn yr amser penodedig. Plediodd yn euog mewn llys ynadon i'r drosedd o daflu sbwriel a chafodd ddirwy o £140 a gorchymyn i dalu costau o £150.  

Mae un o drigolion Stryd Delabeche, Llanelli wedi cael ei herlyn am droseddau o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am adael bagiau du yng nghyffiniau Stryd Delabeche ar dri achlysur gwahanol. Ar ôl methu â chydymffurfio â Hysbysiad a roddwyd ym mis Mai 2022, cafodd Hysbysiad Cosb Benodedig am dorri amodau'r Hysbysiad ar 8 Rhagfyr 2022, ac ni thalodd hynny. Er bod yr achos yn aros i gael ei glywed yn y llys, cyflawnodd y preswylydd yr un drosedd ym mis Mawrth 2023.  Plediodd y preswylydd yn euog drwy'r post a chafodd ddirwy o £80 gyda chostau o £703.24 a gordal dioddefwr o £32 yn Llys Ynadon Llanelli 

Rhoddwyd yr hysbysiadau cosb benodedig canlynol o £125 am droseddau sbwriel: 

Rhywun sy'n byw yng Nghaerfyrddin am adael bag ailgylchu glas halogedig yng nghyfleuster ailgylchu Teras Russell, Caerfyrddin. 

Rhywun sy'n byw yn y Tymbl am adael bag ailgylchu glas halogedig mewn maes parcio yn Heol y Neuadd, Y Tymbl. 

Rhywun sy'n byw yng Nglanaman am adael pecynnau bwyd McDonalds yn Rhiw'r Myrtwydd, Caerfyrddin. 

Rhywun sy'n byw yng Nglanaman am adael bag ailgylchu glas ym maes parcio Canolfan Gymunedol Glanaman. 

Rhoddwyd yr hysbysiadau cosb benodedig canlynol o £400 am droseddau tipio anghyfreithlon: 

Rhywun sy'n byw yng Nghapel Hendre am adael sawl bag sbwriel du yn Llangynog. 

Rhywun sy'n byw yng Nghaerdydd am adael tri bag sbwriel du o wastraff cartref mewn cilfan ar yr A40, Sanclêr. 

Rhywun sy'n byw yn Llanelli am adael tri bag sbwriel du o wastraff cartref yng nghyfleuster ailgylchu'r Bwlch. 

Rhywun sy'n byw yn Llanelli am dipio eitemau o ddodrefn a gwastraff cartref arall yn anghyfreithlon yng Nghoedwig Troserch, Llangennech. 

Rhoddwyd nifer o hysbysiadau cosb benodedig o £100 hefyd i breswylwyr yn ddiweddar am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Daliedydd Gwastraff a roddwyd o dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i drigolion yn Lôn y Parc, Llangennech, Maes y Glo, Llanelli, Myrtle Terrace, Llanelli, Stryd Llewellyn, Llanelli a Heol Abertawe, Llanelli am fethu â glanhau eitemau yn eu bagiau ailgylchu glas.  

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Diolch i'n tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol am eu gwaith caled parhaus i daclo tipio anghyfreithlon, sbwriel a baw ci yn Sir Gâr.  
Helpwch ni i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân drwy gael gwared ar wastraff yn gyfrifol drwy ailgylchu lle bynnag y bo modd, defnyddio cyfleusterau ailgylchu gwastraff y cartref a defnyddio'r biniau sbwriel a ddarperir ledled y sir ar gyfer gwastraff cŵn a sbwriel 'wrth fynd.”