Y Cyngor yn cymeradwyo Prosiect Datblygu Systemau Bwyd ar fferm yn Llanarthne

376 diwrnod yn ôl

Fel rhan o ymdrech ddiweddaraf y Cyngor Sir i ddatgarboneiddio Sir Gaerfyrddin, mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau arloesol heddiw, 18 Medi, i arallgyfeirio ei ystad wledig.

Mae dwy fenter wedi'u cymeradwyo - creu Prosiect Datblygu Systemau Bwyd ar fferm wag sy'n eiddo i'r cyngor yn Llanarthne, ynghyd â phlannu coed a chreu coetir ar dir y Cyngor.

Mae Fferm Bremenda Isaf, Llanarthne, wedi'i nodi fel lleoliad addas ar gyfer Prosiect Datblygu Systemau Bwyd, cais aml-bartneriaeth dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin sydd â'r uchelgais o gynyddu cynhyrchiant bwyd lleol, cefnogi mentrau gwledig a galluogi arallgyfeirio ar ei ystad ffermydd, at ddibenion sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.

Bydd y prosiect yn cynnwys seilwaith, offer a staff medrus i ddatblygu marchnad enghreifftiol ar gyfer safle cynhyrchu ffrwythau a llysiau cynaliadwy ar raddfa caeau ar y fferm 100 erw.

Mae amcanion niferus y Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn cynnwys darparu safle seilwaith carbon isel; ymgysylltu â rhanddeiliaid - o ysgolion i ragnodwyr gwyrdd a chymdeithasol, cymunedau a thyfwyr ar raddfa fach i gwsmeriaid y sector cyhoeddus a phreifat; tyfu marchnadoedd lleol newydd ar gyfer cynnyrch lleol a chynaliadwy a datblygu modelau agregu cyflenwad a datblygu llwybrau hyfforddi achrededig.

Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau i blannu coed a chreu coetir ar dir y Cyngor.

Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin Argyfwng Hinsawdd ac ers hynny mae wedi cynyddu ei ymdrechion i ddatgarboneiddio'r sir er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy a gwyrdd. Mae plannu coed a chreu coetir yn un elfen o'r ymdrech fawr hon.

Bydd sefydlu coetir newydd ar ystad y Cyngor yn sicrhau canlyniadau yn erbyn yr Argyfwng Hinsawdd a bydd hefyd yn lliniaru colli coed ynn a choetir ynn oherwydd clefyd coed ynn yn Sir Gaerfyrddin.

Mae coed yn helpu i liniaru newid yn yr hinsawdd. Maent yn tynnu carbon deuocsid o'r aer, yn storio carbon yn y pren a'r pridd, ac yn rhyddhau ocsigen i'r atmosffer. Mae plannu coetiroedd newydd hefyd yn creu cynefin bywyd gwyllt newydd ac yn darparu cysylltiadau rhwng cynefinoedd presennol, gan adeiladu cysylltedd ecolegol hanfodol a gwytnwch ecosystemau. Mae'r dull hwn yn gyson â'r Nod 'Cymru Gydnerth' yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cydnabod ers amser maith yr argyfwng hinsawdd sy'n wynebu'r sir, Cymru a'r byd ac mae'n gweithredu ar draws pob agwedd ar ei waith i sicrhau bod y dyfodol rydym yn ei ddarparu i'n plant a phlant ein plant yn un iach a chynaliadwy.

Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weld datblygiad fferm Bremenda Isaf a'r effaith y bydd tyfu bwyd mewn modd cynaliadwy yn ei chael ar ddal a storio carbon, gwella bioamrywiaeth, yr economi leol, lleihau milltiroedd bwyd a llesiant cymdeithasol.”