Safbwynt y Cyngor ar Goncrit RAAC

353 diwrnod yn ôl

Ymrwymiad pennaf Cyngor Sir Caerfyrddin yw diogelu a sicrhau lles defnyddwyr ein hadeiladau, a hynny heb gyfaddawdu.

Mae’r dudalen wybodaeth hon wedi’i llunio i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Sir Caerfyrddin am faterion yn ymwneud â Reinforced Autoclaved Aerated Concrete (RAAC).

Y Cefndir

Mae RAAC yn ddeunydd adeiladu a ddefnyddiwyd yn aml rhwng y 1950au a'r 1990au. Cadarnhawyd ei fod yn bresennol mewn amryw o eiddo sector cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mewn ysgolion ac ysbytai. Mae Llywodraethau'r DU wedi bod yn ymwybodol o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig ag RAAC ers y 1990au ac mae ymdrechion cydweithredol wedi bod ar waith ers 2018 ymhlith Llywodraeth y DU, Llywodraethau Datganoledig, ac awdurdodau lleol i reoli RAAC yn effeithiol. Ystyrir bod y canllawiau ar gyfer rheoli RAAC mewn adeiladau yn gadarn, gan flaenoriaethu diogelwch defnyddwyr adeiladau.

Yng Nghymru, cafodd awdurdodau lleol wybod am y problemau posibl â RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Chwefror 2020 yn dilyn rhybudd diogelwch a gyhoeddwyd yn 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol. Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu cyflwr a risgiau diogelwch pob adeilad yn eu hystad ysgolion ac i gadw cofnodion cynhwysfawr.

 

Ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer eiddo heblaw tai

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin dîm arolygu cyflwr stoc pwrpasol a rhaglen ar waith i gynnal arolygon manwl o'r holl eiddo o fewn amserlen y cytunwyd arni. Cynhaliwyd ymchwiliadau cychwynnol ar draws ein hystad eiddo a gynhelir, ac rwy'n falch o ddweud nad yw'r asesiadau rhagarweiniol hyn wedi canfod unrhyw RAAC yn ein heiddo.

 

Ymateb Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer eiddo tai

Mae'r defnydd hysbys o RAAC mewn eiddo tai yn brin ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw dai yn ein stoc lle cafodd ei ddefnyddio. Mae'r rhan fwyaf o'n tai a'n cynlluniau gwarchod wedi'u hadeiladu trwy ddulliau traddodiadol ac mae ein tai anhraddodiadol eisoes wedi'u hadnewyddu o dan raglenni blaenorol a gynlluniwyd. 

Mae gennym raglen cyflwr stoc dai barhaus a hyd yn hyn nid yw deunydd RAAC wedi'i ganfod. Adeiladwyd nifer fechan o dai trwy ddulliau anhraddodiadol gan ddefnyddio concrit, ond adeiladwyd y rhan fwyaf o'r rhain cyn y 1950au cyn y cyfnod pan ddechreuodd RAAC gael ei ddefnyddio. 

 

Diweddariad: 15/09/2023 – Archwiliadau yn parhau.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i benaethiaid, staff addysg, disgyblion a rhieni am statws eu hadeiladau ysgol. 

Mae’r llythyr canlynol wedi’i gyfathrebu i rieni trwy ysgolion ar 8 Medi 2023.

Mae ein hymrwymiad pendant i sicrhau diogelwch ein hadeiladau yn parhau. Yn dilyn ein hymchwiliadau cychwynnol, rydym yn bwriadu dilysu'r canlyniadau rhagarweiniol hyn trwy waith arolygu helaeth ychwanegol. Er nad ydym ni'n rhagweld canfod unrhyw arwyddion o RAAC, os caiff ei ganfod yn unrhyw un o'n heiddo yn yr asesiadau dilynol hyn, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn cymryd camau pendant i fynd i'r afael â'r sefyllfa yn brydlon. Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch a lles defnyddwyr ein hadeiladau a Deiliaid Contractau Meddiannaeth Tai.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i fonitro'r sefyllfa'n agos, blaenoriaethu diogelwch, a gweithredu mesurau priodol mewn ymateb i unrhyw bryderon a allai godi.

Erbyn hyn mae tasglu sy'n cynnwys uwch-swyddogion yn cwrdd yn wythnosol i fonitro'r sefyllfa a sicrhau bod ein gwaith arolygu pellach yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel ac yn digwydd yn gyflym.

Diogelwch a lles defnyddwyr ein hadeiladau yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

 

Gwall yn llwytho sgript Rhan-Wedd (ffeil: ~/Views/MacroPartials/Newsroom/NewSideContent.cshtml)