Penodi'r Cynghorydd Hazel Evans yn Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth

400 diwrnod yn ôl

Mae'r Cynghorydd Hazel Evans wedi'i phenodi'n Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin mewn cyfarfod o'r Cyngor Sir heddiw, dydd Mercher, 13 Medi 2023.

Mae'r Cynghorydd Hazel Evans yn cymryd yr awenau oddi ar y Cynghorydd Gareth John, sydd wedi'i benodi'n Gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Etholwyd y Cynghorydd Hazel Evans i Gyngor Sir Caerfyrddin am y tro cyntaf ym mis Mai 2010 a gwasanaethodd fel Aelod o'r Bwrdd Gweithredol (Aelod Cabinet bellach) dros yr Amgylchedd o 2015 tan 2022. Ers ail-ethol y Cynghorydd Evans yn 2022, mae hi wedi bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, y Pwyllgor Craffu - Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol a Phwyllgorau Penodi A a B.

Ochr yn ochr â'i gwaith fel Cynghorydd Sir, mae'r Cynghorydd Evans hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi, yn Drysorydd Eglwys y Drindod Sanctaidd Castellnewydd Emlyn, a hi yw Maer Castellnewydd Emlyn ar hyn o bryd.

Mae'r Cynghorydd Evans yn gefnogwraig frwd o'r Scarlets a bu'n Llywydd Clwb Rygbi Castellnewydd Emlyn rhwng 2002 a 2016.

Wrth groesawu'r Cynghorydd Hazel Evans i'r Cabinet, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyng. Darren Price: “Hoffwn ddiolch i'r Cyng. Gareth John am ei waith, ei ddoethineb a'i frwdfrydedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  Gyda hynny, mae hefyd yn bleser gofyn i'r Cyng. Hazel Evans fod yn Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda hi yn y blynyddoedd i ddod.”