Gwesty Parc y Strade: Cwestiynau Cyffredin: Medi 2023

344 diwrnod yn ôl

Mae Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin yn ymwneud â chynlluniau y Swyddfa Gartref i gartrefi ceiswyr lloces yng Ngwesty Parc y Strade. Cyhoeddwyd y Cwestiynau Cyffredin yn dilyn sesiwn wybodaeth ar-lein a oedd yn fyw i’r cyhoedd a chynhaliwyd gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ar ddydd Mawrth, 22 Awst 2023.

Cliciwch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin.

Cynhaliwyd sesiwn wybodaeth ar-lein byw i fynd i’r afael â phryderon trigolion lleol am y defnydd o westy Parc y Strade. Roedd fideo o’r sesiwn ar gael am wythnos yn dilyn y digwyddiad.

Yn y sesiwn, aeth cynrychiolwyr o’r Swyddfa Gartref, Clearsprings Ready Homes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Gâr, Heddlu Dyfed Powys a Migrant Help i’r afael â phroblemau a chwestiynau a godwyd gan drigolion lleol. Cyflwynwyd gwybodaeth ffeithiol a chlir yn y sesiwn wybodaeth i’r cyhoedd a darparwyd y cyd-destun cenedlaethol am yr angen i ddefnyddio’r gwesty, ymateb yr heddlu, sicrwydd am weithrediad y safle a sut bydd Clearsprings Ready Homes (CRH) ac asiantaethau lleol yn cefnogi’r teuluoedd a gaiff eu lleoli yn y gwesty.

Mae’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin yn cynnig atebion i gyfres o’r cwestiynau a gyflwynwyd gan aelodau o’r cyhoedd drwy fewnflwch a sefydlwyd cyn y sesiwn wybodaeth, yn ogystal â’r wybodaeth a rannwyd gan gyfranwyr yn y fideo a’r darllediad byw, a’r cwestiynau a atebwyd yn y sesiwn.