Gwaith datblygu i ddechrau yn Stryd y Farchnad, Llanelli

355 diwrnod yn ôl

O ddydd Llun, 18 Medi 2023, bydd gwaith datblygu yn cychwyn yng Ngogledd Stryd y Farchnad Llanelli.

Mae TRJ wedi'i benodi'n gontractwr, gyda rhan gyntaf y gwaith yn ymwneud â gosod pyst a disgwylir iddo bara am saith wythnos. 

Ar ôl ei gwblhau, bydd y datblygiad yn Stryd y Farchnad yn darparu 5 uned fasnachol ar y llawr gwaelod a 10 fflat 2 ystafell wely yng nghanol y dref. 

Disgwylir i'r rhaglen gyfredol bara 65 wythnos, felly ar hyn o bryd disgwylir i'r contract gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2025. 

Dywedodd y Cyng. Dywedodd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae’n braf iawn gweld y datblygiad yng Ngogledd Stryd y Farchnad yn digwydd gan y bydd yn chwarae rhan bwysig yn uchelgais y Cyngor i adfywio Canol Tref Llanelli drwy ddarparu tai deiliadaeth gymysg yng nghanol y dref.”