Dweud eich dweud am y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin

368 diwrnod yn ôl

Hoffai Cyngor Sir Caerfyrddin gael barn trigolion, busnesau, sefydliadau'r trydydd sector ac ymwelwyr â'r sir am y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin.

cliciwch yma i gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein

Mae Ymgynghoriad Toiledau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ar agor rhwng 29 Awst a 10 Hydref i gasglu gwybodaeth i lywio Strategaeth Toiledau Lleol wedi'i diweddaru ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

Mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i lunio Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer ei ardal. Wrth ddatblygu cyfleusterau cymunedol o’r math hwn, mae’n rhaid ymgynghori mewn modd ystyrlon â’r cyhoedd, busnesau a phartïon eraill â diddordeb er mwyn llywio dull gweithredu y Cyngor.

Mae’r ddarpariaeth ddigonol o doiledau diogel, glân, hylan sydd ar gael i’r cyhoedd mewn unrhyw dref fawr yn cael effaith sylweddol ar fywyd a llesiant ei thrigolion, ei hymwelwyr a’r diwydiant twristiaeth.

Nod y Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus (a elwir hefyd yn Strategaeth Toiledau Lleol) fydd gwella'r ddarpariaeth toiledau yn y sir. Gyda hyn mewn golwg, bydd y Cyngor yn edrych ar newid y ffordd y mae'n darparu rhai gwasanaethau wrth iddo geisio defnyddio ffyrdd mwy creadigol o ddarparu cyfleusterau toiledau cyhoeddus.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y Pwyllgor Craffu priodol yn craffu ar y strategaeth ddrafft gyda’r nod o'i chyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: "Mae toiledau cyhoeddus yn chwarae rôl hollbwysig ym mywyd bob dydd ein cymunedau. Mae'n bwysig iawn, felly, i'r Cyngor gasglu barn a phrofiadau unigolion, grwpiau a busnesau sy'n defnyddio'r toiledau hyn er mwyn i ni lunio ein Strategaeth Toiledau Lleol.  Felly ewch ati i ddweud eich dweud heddiw."