Diwydiant twristiaeth sy'n tyfu yn Sir Gaerfyrddin yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol

351 diwrnod yn ôl

Cafodd £596.51 miliwn ei gynhyrchu gan ddiwydiant twristiaeth Sir Gaerfyrddin y llynedd ar gyfer yr economi leol.

Mae ffigurau economaidd annibynnol newydd, a luniwyd ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, yn datgelu bod dros 3.46 miliwn o bobl wedi ymweld â Sir Gaerfyrddin yn 2022 i fwynhau ei chyfuniad unigryw o gefn gwlad ac arfordir. I ddadansoddi hyn ymhellach, roedd hyn yn cyfateb i dros 7.19 miliwn o ddyddiau twristiaid a dreuliwyd yn y sir gyda 1.17 miliwn o bobl yn aros dros nos yn un o'r 1,250 o sefydliadau yn Sir Gâr.

I ddarganfod beth sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig i ymwelwyr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.  

Mae diwydiant twristiaeth Sir Gâr bellach yn cyflogi 6,652 o bobl ac mae ei effaith economaidd wedi cynyddu 66% ers 2011, o £358.89 miliwn i £596.5 miliwn yn 2022.

Gan adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth ar gyfer ein sir, mae dau brosiect yn Sir Gaerfyrddin wedi ennill cyfran o Gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru sydd werth £5 miliwn er mwyn helpu i ddarparu profiad gwyliau o'r radd flaenaf.

Maes Parcio Llansteffan - £224,000 o gyllid, o gyfanswm buddsoddiad prosiect gwerth £280,000, wedi'i ddyfarnu i Gyngor Sir Caerfyrddin i ddatblygu ymhellach y cyfleusterau parcio ceir a gwelliannau i ymwelwyr yn un o bentrefi mwyaf poblogaidd a phert y sir.  

 

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin - £264,000, o gyfanswm buddsoddiad prosiect gwerth £330,000, wedi'i sicrhau i gynnal ail gam y gwelliannau yn y cyfleuster hanesyddol yn Abergwili, ar gyrion Caerfyrddin. Ar hyn o bryd mae'r Amgueddfa yn arddangos y campwaith Tobias a'r Angel gan Andrea del Verrocchio. Bydd y cyllid yn cael ei fuddsoddi yn y maes parcio a gwelliannau i ymwelwyr, er mwyn gwella capasiti a hygyrchedd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gweithio gyda darparwyr twristiaeth a lletygarwch lleol, gan gynnwys gwestai, lletyau gwely a brecwast, atyniadau twristiaeth, darparwyr gweithgareddau, bwytai, tafarndai, busnesau a manwerthwyr, i roi'r croeso perffaith i ymwelwyr a'u hannog i ddychwelyd i'r sir.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae llawer iawn o waith caled yn digwydd ar draws ein sir, nid yn unig i ddenu ymwelwyr i'r rhan unigryw a rhyfeddol hon o Gymru, ond hefyd i wneud iddynt fod eisiau dychwelyd yma ar wyliau yn y dyfodol.
Mae diwydiant twristiaeth Sir Gaerfyrddin yn darparu swyddi i bobl leol ac yn cefnogi busnesau lleol; felly rwy'n falch iawn bod y Cyngor Sir wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella'r atyniadau i ymwelwyr yn Llansteffan ac Amgueddfa Caerfyrddin.”

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

Mae'r prosiectau a gefnogir drwy gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae gan amwynderau twristiaeth lleol ran fawr i'w chwarae wrth wneud taith yn un gofiadwy. Yn aml nid yw pobl yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maen nhw'n rhan bwysig o brofiad ymwelwyr ac maen nhw hefyd o fudd i bobl leol.”