Awdur Llawryfog Plant, Joseph Cohelo, yn ymweld â Llyfrgell Llanelli - Medi 9

367 diwrnod yn ôl

Ddydd Sadwrn yma, Medi 9 am 2:30pm, bydd Awdur Llawryfog Plant Waterstones (2022-2024), Joseph Coelho, yn darllen a pherfformio i blant yn Llyfrgell Llanelli fel rhan o'i ymgyrch genedlaethol, 'Marathon y Llyfrgelloedd'.

Mae’r bardd-berfformiwr, dramodydd ac awdur plant sydd wedi ennill sawl gwobr, ar daith epig ledled y wlad i ymuno â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol, a’i nod yw annog pobl o bob oed i ymuno â'u llyfrgell leol. Mae Coelho yn hybu llyfrgelloedd lleol a'r rhan hanfodol maen nhw’n ei chwarae yn y gymuned, ac yn ysgogi cariad at ddarllen ymhlith pobl ifanc.

Mae Awdur Llawryfog Plant Waterstones, Joseph Coelho, yn fardd-berfformiwr, dramodydd, ac awdur plant sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae barddoniaeth a pherfformio yn ganolog i’w waith, gan bwyso ar dros 20 mlynedd o brofiad o gynnal sesiynau llythrennedd creadigol a deinamig mewn ysgolion. Ei nod yw ysbrydoli pobl ifanc trwy storïau a chymeriadau y gallan nhw eu hadnabod ac mae'n archwilio themâu gan gynnwys ofn, dewrder, amrywiaeth, diolchgarwch, empathi a cholled. Yn ogystal ag archwilio tirweddau emosiynol, mae Coelho yn cael ei ysbrydoli gan hud a lledrith a’r hen fyd ac mae’n aml yn pwyso ar ei brofiadau ei hun gan eu trawsnewid yn rhywbeth cyffredinol y gall pawb eu rhannu. Drwy gydol ei yrfa mae wedi tynnu sylw at rym barddoniaeth a darllen, gan hyrwyddo ac ymgyrchu dros lyfrgelloedd lleol a rhoi sylw i leisiau newydd ac amrywiaeth drwy ei holl waith. Mae Coelho yn ysgrifennu i blant o bob oed.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:  “Rydym yn falch iawn o groesawu Joseph, fel Awdur Llawryfog Plant, i Lyfrgell Llanelli a byddwn yn annog pob rhiant a gwarcheidwad i fanteisio ar y cyfle gwych hwn i fynd â’u plant i’r digwyddiad gwych hwn, sydd am ddim.”

Dywedodd Joseph Coelho, Awdur Llawryfog Plant Waterstones 2022-2024: “Rwy wrth fy modd yn dod â thaith Marathon y Llyfrgelloedd i Gymru. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â 22 o lyfrgelloedd ym mhob rhan o’r wlad hardd yma, ac ymuno â chyd-fardd, Alex Wharton, sydd newydd ei benodi’n Awdur Llawryfog Plant Cymru. I lyfrgelloedd mae’r diolch fy mod i’n awdur, a llyfrgelloedd sy’n gwneud i gymunedau ffynnu. Maen nhw wedi bod yn rhan hanfodol o fy mywyd: o fyw ar stadau lle roedd gen i lyfrgell drws nesaf, i fy swydd Sadwrn gyntaf, i weithio yn y Llyfrgell Brydeinig pan oeddwn i’n astudio yn UCL, i fynd ar daith gyda sioeau theatr wedi’u cynllunio i'w perfformio mewn llyfrgelloedd. Rwy'n hynod ddiolchgar i lyfrgelloedd a'r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu, felly rwy eisiau defnyddio fy rôl i fel Awdur Llawryfog Plant Waterstones i hyrwyddo'r deorfeydd dysgu hanfodol yma. Rwy eisiau cofleidio pob llyfrgell, y sefydliadau gwyrthiol hyn lle mae gorwelion newydd ar bob silff, lle mae meddyliau’n cael eu meithrin.”