Adroddiad Estyn yn canfod bod Gwasanaethau Addysg Sir Gâr yn cael eu harwain yn gadarn

346 diwrnod yn ôl

Mae adroddiad Estyn ar Wasanaethau Addysg Sir Gâr, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw - Medi 27, yn canmol Cyngor Sir Gâr am ei weledigaeth glir, sy’n cael effaith gadarn ar wella darpariaeth addysg a deilliannau dysgwyr.

 

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad yn llawn.

 

Nodir yn yr adroddiad fod diogelu plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth gorfforaethol i’r Cyngor ac fe'i hystyrir yn gyfrifoldeb ar bawb yn yr awdurdod. Trwy arfarniadau ar gyfer lles mewn ysgolion, gwelwyd bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at eu dysgu, yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol ac yn gwybod sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Nodwyd hefyd bod ymddygiad disgyblion yn nodwedd gyffredinol gref.

 

Cydnabuwyd yn yr adroddiad fod gan Wasanaethau Addysg y Sir drefniadau bwriadus yn eu lle er mwyn sicrhau fod anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hadnabod yn gynnar a bod darpariaeth addas mewn lle i ddiwallu’r anghenion hynny i’r disgyblion sydd ei hangen.

 

Cafwyd canmoliaeth am y modd y mae ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, staff yr awdurdod ac asiantaethau allanol yn gweithio’n agos er mwyn cynnig cefnogaeth gref i ddisgyblion bregus. Adroddwyd hefyd bod y Cyngor yn effro i’r her gynyddol sydd yn bodoli o ran lleihau’r anghydraddoldebau y mae plant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn eu hwynebu.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod bod gan yr awdurdod arweinwyr cymwys a gweithdrefnau cadarn yn eu lle er mwyn galluogi’r Cyngor i wireddu ei flaenoriaethau a gwelliannau pellach i’r dyfodol. Nodwyd bod tîm effeithiol a chydwybodol o staff wedi ei ddatblygu sydd yn modelu ac yn hybu gwerthoedd ac ymddygiadau proffesiynol er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol at gydweithredu effeithiol rhwng staff, ysgolion a phartneriaid.

 

Gwelir yn yr adroddiad fod prosesau ad-drefnu ysgolion Sir Gaerfyrddin yn gadarn, gydag elfen gref yn nhermau gweithio’n agos gydag ystod dda o bartneriaid allanol. Un o nodweddion cryfaf strategaeth ad-drefnu ysgolion y Cyngor yw ei waith i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd trefol y sir.

 

Cafwyd canmoliaeth i gamau'r Cyngor i fireinio’r ddarpariaeth i gefnogi a gwella ymddygiad o fewn ysgolion, gyda chyfeiriad strategol cryf i’r gwaith hwn. Mae’r adroddiad yn nodi bod gan yr awdurdod weledigaeth glir ar gyfer darparu cefnogaeth ymddygiad i ysgolion, disgyblion a’u teuluoedd a bod yna ymrwymiad clir i wella presenoldeb disgyblion gyda chynnydd cryf mewn ystod o ysgolion.

 

Ymhlith y pwyntiau cadarnhaol eraill a nodir yn yr adroddiad:

 

  • Mae gan staff ysgolion fynediad at ystod eang o ddysgu proffesiynol perthnasol.

 

  • Mae’r Cyngor yn adnabod y cryfderau a’r meysydd i’w gwella o fewn ysgolion cynradd yn briodol.

 

  • Mae’r awdurdod lleol yn darparu ystod werthfawr o gymorth a chefnogaeth i lywodraethwyr.

 

  • Mae gan swyddogion ddealltwriaeth gadarn o anghenion penodol plant a phobl ifanc Sir Gâr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

 

Cyfeiriwyd hefyd at flaenoriaethu cyllid ar gyfer addysg gan y Cyngor Sir, trwy nodi fod gan arweinwyr ddealltwriaeth dda o’u sefyllfa ariannol oddi fewn y gwasanaeth addysg, ac maent yn ymwybodol o’r heriau ariannol. Diogelwyd cyllidebau gwasanaethau addysg ac ysgolion dros y pedair blynedd diwethaf gan Gyngor Sir Gâr.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Dros Addysg a’r Gymraeg, Y Cynghorydd Glynog Davies: “Rwy’n hynod o falch o waith clodwiw Gwasanaethau Addysg Sir Gâr ac yn ddiolchgar o ymdrechion ein holl staff, ysgolion a disgyblion sydd yn cael eu cydnabod yn yr adroddiad trwyadl yma gan Estyn.

 

“Mae gennym ni yma, yn Sir Gaerfyrddin, weledigaeth ac arweiniad strategol clir ac amlwg er mwyn darparu'r addysg gorau posib i’n plant a phobl ifanc ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i fwrw ymlaen i wireddu ein cynlluniau.”