Adnewyddu caeau pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman

367 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'i fuddsoddiad parhaus yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman a chyfleusterau Ysgol Dyffryn Aman, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi bod y gwaith o osod wyneb newydd ar y cae pob tywydd 2G presennol â llifoleuadau ar gyfer hoci a phêl-droed wedi ei gwblhau a bod y gwaith o adeiladu cae pob tywydd 3G newydd sbon ar gyfer rygbi a phêl-droed a thrac rhedeg synthetig â chwe lôn yn mynd rhagddo'n dda. 

Roedd y gwaith o osod wyneb newydd ar y cae pob tywydd presennol yn bosibl oherwydd cyllid o dros £300,000 gan yr ysgol, yr awdurdod lleol, a chyllid allanol, ac roedd yn rhan o ail gam y gwaith a'r buddsoddiadau a wneir ar y safle.  

Yng ngham 1 y gwaith, cafwyd buddsoddiad gwerth hanner miliwn o bunnoedd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, yn cynnwys gwaith adnewyddu mawr ar y cyfleusterau newid i greu pentref newid modern i wasanaethu gweithgareddau ochr wlyb ac ochr sych. 

Mae cam olaf y prosiect cyfalaf ar y gweill, a bydd y gwaith o adeiladu cae 3G, sy'n werth £2 filiwn, gyda thrac athletau synthetig o'i amgylch, yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni. 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: 

"Mae darparu cae chwaraeon 3G newydd yn Rhydaman, ynghyd â datblygu strategaeth ac asesu'r angen am gaeau pob tywydd ar draws y sir, yn ddau amcan a nodwyd yn Natganiad Gweledigaeth Cabinet y Cyngor. 

“Rwy'n falch iawn felly o weld y datblygiadau hyn yn cael eu gwireddu, gan sicrhau cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf ar gyfer Dyffryn Aman i gyd. 

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol pellach gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn y ganolfan hamdden a'r ysgol ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y cyfleusterau arbennig ychwanegol hyn yn cael eu darparu i gymunedau Dyffryn Aman yn ddiweddarach eleni. 

“Mae'r buddsoddiad hwn yn Nyffryn Aman yn hollbwysig wrth ddatblygu dull 'chwaraeon i bawb' y Cyngor i gynorthwyo ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, o ddechreuwyr i'r elît.”