Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Westy Parc y Strade, datganiad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

431 diwrnod yn ôl

Datganiad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn Gryphon Leisure Limited, Sterling Woodrow Limited, Clearsprings Ready Homes Limited, Robert Horwood a Gareth Street ynghylch newid defnydd sylweddol Gwesty Parc y Strade, Llanelli heb ganiatâd cynllunio. Bydd yr achos yn destun gwrandawiad ar 7 Gorffennaf yn yr Uchel Lys yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, Strand, Llundain.

“Nid yw'r Cyngor yn gallu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd oherwydd yr angen i barchu'r broses gyfreithiol sydd ar waith.”