Y Cyngor yn cynnig cymorth i weithwyr sy'n wynebu colli eu swyddi

435 diwrnod yn ôl

Yn dilyn y datblygiad syfrdanol diweddar fod staff Gwesty Parc y Strade mewn perygl o gael eu diswyddo o 10 Gorffennaf 2023, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd camau i gefnogi staff y gwesty drwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd ac i'w cynorthwyo os byddant yn colli eu swyddi gyda'r gwesty.

Yn yr un modd ag achosion eraill o weithlu mawr yn wynebu diswyddiadau, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cymorth i weithwyr drwy ei brosiectau Cymunedau am Waith a Gweithffyrdd+ a bydd yn helpu'r unigolion hyn drwy roi cyngor ac arweiniad o ran chwilio am swydd; ynghyd â chymorth cyflogaeth sy'n cynnwys hyfforddiant a diweddaru CVs yn ôl yr angen. 

Mae tîm cyflogadwyedd y Cyngor hefyd yn archwilio'r posibilrwydd o gynnal ffair swyddi i'r staff i dynnu sylw at y swyddi sydd ar gael yn yr ardal leol a gwahodd diwydiannau amrywiol i'r ffair. Bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu gwybodaeth y gallai fod ei hangen ar unigolion. Yn ogystal, bydd cyfleoedd yn y sector hamdden a lletygarwch o fewn y Cyngor yn cael eu hamlygu. Bydd ymgynghorwyr HWB Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd wrth law i gynghori'r bobl hynny sydd angen cymorth ariannol.