Hen Farchnad Llandelio yn agor ei drysau unwaith eto

436 diwrnod yn ôl

Yr Hen Farchnad, Llandeilo from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.

Mae'r Hen Farchnad yn Llandeilo wedi ailagor ei drysau'n swyddogol heddiw, ddydd Iau 29 Mehefin 2023, mewn digwyddiad agoriadol lle roedd partneriaid cyllido a rhanddeiliaid allweddol eraill yn bresennol.

Bydd yr Hen Farchnad yn agor yn swyddogol i'r cyhoedd o fewn yr wythnosau nesaf, cadwch lygad am y dyddiad agoriadol!

Wedi'i hadeiladu yn y 1830au, roedd y farchnad nwyddau wedi bod yn rhan allweddol o hanes Llandeilo hyd at 2002 pan nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach. Roedd y farchnad wedi dirywio'n sylweddol a chafodd ei rhoi ar y 'gofrestr adeiladau mewn perygl' yn 2007.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn 2019 ac aeth Cyngor Sir Caerfyrddin ati i adnewyddu'r adeilad rhestredig Gradd II i'w ddefnyddio unwaith eto.

Bydd neuadd y farchnad yn darparu cymysgedd o swyddfeydd modern o ansawdd uchel a gofod cyflogaeth busnes gyda chaffi a pharcio ar y safle.

Mae'r prosiect £4.2m wedi cael £2.5m o gyllid gan Gyngor Sir Caerfyrddin ynghyd ag £1.7m drwy raglen 'Trawsnewid Trefi - Adeiladu ar gyfer y Dyfodol' Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae'r gwaith i adnewyddu Neuadd y Farchnad wedi cael ei wneud gan TRJ Builders, o Rydaman.

Disgwylir i fusnesau fasnachu o'r Hen Farchnad yn ystod yr wythnosau nesaf a disgwylir i'r cyfleuster modern ddarparu 45 swydd a 4 hyfforddeiaeth.

Mae'r gofod llawr 1,249m2 yn darparu ar gyfer 18 uned fasnachu ac mae 14 o fentrau bach i ganolig eisoes wedi cytuno ar denantiaethau i feddiannu 15 uned, gan gynnwys y caffi.

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn meddiannu un o'r 3 uned sy'n weddill gysylltu ag ystadau@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: Ar un adeg roedd neuaddau marchnad yn guriad calon cymuned, lle i gymdeithasu yn ogystal â masnachu, gyda'r adeilad hwn yn Llandeilo wedi'i adeiladu gyntaf yn y 1830au. 

“Ein cynllun oedd ei gwneud yn ganolfan unwaith eto ar gyfer busnes, un lle roedd pobl yn cymysgu ac yn adeiladu rhwydweithiau lleol, mewn amgylchedd a oedd yn fodern ac yn hygyrch. Rwy'n falch iawn o'i gweld yn cael ei hadnewyddu a'i hagor unwaith eto.” 

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: "Mae'n wych gweld Neuadd y Farchnad Gradd II yn cael ei hailagor ar gyfer y gymuned leol.

"Mae'r Hen Farchnad wedi llwyddo i dderbyn £1.7m o gyllid gan ein rhaglen Trawsnewid Trefi ac edrychaf ymlaen at ymweld â hi.”