Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cynnal ei CCB

475 diwrnod yn ôl

I ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, 23 – 30 Mehefin, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin ddydd Mercher, 28 Mehefin 2023.

Cafodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin eu croesawu a'u cynnal gan aelodau o Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin ac agorwyd y cyfarfod cyffredinol blynyddol yn swyddogol gan Gareth Morgans, y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant.

Yn ystod y cyfarfod, edrychodd y Cyngor Ieuenctid yn ôl ar ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf a'r materion sydd wedi bod yn effeithio ar bobl ifanc a'r cyflawniadau cadarnhaol a wnaed gan eu cyfoedion. Gwnaethant hefyd drafod a rhannu barn ar faterion y byddent am fynd i'r afael â nhw yn ystod y flwyddyn i ddod.

Ymysg y materion y mae'r Cyngor Ieuenctid wedi gweithio arnynt a'r prosiectau y maent yn falch ohonynt yw creu Fideo Diogelu Rhanbarthol i hyfforddi gweithwyr proffesiynol; sy'n tynnu sylw at gam-drin domestig drwy eu Prosiect Codi Llais yn Erbyn Trais; helpu Cyngor Sir Caerfyrddin i ddatblygu Adnoddau Hawliau Plant ar gyfer ysgolion a phrosiectau ieuenctid; codi materion fel yr argyfwng costau byw ar lefel leol a chenedlaethol; ymwneud ag arolygiad diweddar Estyn o'r Cyngor; recriwtio a dethol staff fel rhanddeiliad cyfartal mewn cyfweliadau; gweithio tuag at Wobr Cysgodi Cynghorwyr ASDAN a gweithio'n agos gydag Aelodau Cabinet y Cyngor.

Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn cynnwys 42 o bobl ifanc, rhwng 11 a 21 oed, o bob rhan o'r sir ac mae ganddo gynrychiolaeth ar Senedd Ieuenctid Cymru a Senedd Ieuenctid y DU i sicrhau bod gan bobl ifanc Sir Gaerfyrddin lais a mecanwaith i glywed eu barn ar lefel leol a chenedlaethol.

Eu nod yw cynrychioli barn pobl ifanc ar faterion sy'n berthnasol iddyn nhw gydag Uwch-swyddogion y Cyngor Sir.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Cadeirydd y Cyngor Ieuenctid, Lucas Palenek, 17 oed o Frechfa: “Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 yn ddigwyddiad arbennig, wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn ugain oed. Wedi'i sefydlu yn 2003, mae'r Cyngor Ieuenctid wedi gwneud cynnydd sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Nod y cyfarfod yw rhannu ein gwaith gyda phawb, gan gynnwys ein prosiectau tymor byr a hirdymor, gan gryfhau ein cysylltiadau a'n sylfeini cryf sydd wedi ein galluogi i gynrychioli pwy ydym ni heddiw. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn lawn gyntaf wedi'r cyfyngiadau symud, mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol i ni sicrhau bod lleisiau'r bobl ifanc o'r sir yn cael eu clywed ar lefel leol a chenedlaethol, ac felly mae hwn yn gyfle i'n cyflawniadau a'n hymdrechion gael eu cydnabod a'u canmol neithiwr.”

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae mor bwysig bod ein pobl ifanc yn ymwneud â'r materion sy'n effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau gan mai nhw sy'n gwneud penderfyniadau yfory. 

“Mae Aelodau'r Cabinet wedi mwynhau gweithio gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn fawr iawn ac rydym yn falch o'u gwaith ac yn gyffrous am y cyflawniadau sydd ar y gorwel ar gyfer ein cenhedlaeth yn y dyfodol.”