Cymorthfeydd Caffael a Busnes Sir Gaerfyrddin

451 diwrnod yn ôl

Ydych chi am gyflenwi eich nwyddau, gwaith a gwasanaethau i Gyngor Sir Caerfyrddin? 
 
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu â busnesau lleol bach a chanolig, Sefydliadau Trydydd Sector a Grwpiau Lleiafrifol i ddarparu'r fenter hon i ymgysylltu â chyflenwyr.
 
Mae'r Cyngor yn awyddus i weld busnesau lleol bach a chanolig yn cystadlu am y cyfle i gyflenwi nwyddau, gwaith a gwasanaethau i'r Awdurdod. 
 
Bydd Cymorthfeydd Caffael a Busnes yn cael eu cynnal ar draws Sir Gaerfyrddin tan fis Mawrth 2024 lle bydd Swyddogion Caffael a Datblygu Economaidd y Cyngor ar gael i gynnig gwybodaeth a chefnogaeth ynghylch cyfleoedd masnachu presennol a'r dyfodol, cymorth busnes a chyllid grant.
 
Bydd y Cymorthfeydd Caffael a Busnes cyntaf yn cael eu cynnal mewn dau leoliad: 
• Y Goleudy, Dafen, Llanelli - 20 Mehefin 
• Yr Egin/Stiwdio S4C, Caerfyrddin – 18 Gorffennaf 
 
I drefnu apwyntiad 30 munud, anfonwch e-bost at: kbaker@sirgar.gov.uk 
 
Bydd mwy o Gymorthfeydd yn dilyn rhwng Medi 2023 a Mawrth 2024, a fydd yn cynnwys lleoliadau yn 3 prif dref Sir Gaerfyrddin, ym Mhorth Tywyn ac yn 10 tref wledig y sir. 
 
Bydd cymorthfeydd rhithwir hefyd ar gael yn ôl yr angen.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, y Cynghorydd Alun Lenny: "Mae caffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau gan gyflenwyr lleol yn hanfodol i gryfhau ein heconomi leol a'r cymunedau mae'n eu cefnogi.
 
"Mae'r Cymorthfeydd Caffael a Busnes fydd mewn gwahanol lefydd ar draws Sir Gâr dros y misoedd nesaf yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig, sefydliadau'r trydydd sector, a grwpiau lleiafrifol gael cyngor am sut i dendro am gyfleoedd gyda'r Cyngor."