Penwythnos Coroni Y Brenin Charles III

494 diwrnod yn ôl

Y penwythnos yma, i nodi coroni'r Brenin Siarl III, bydd penwythnos gŵyl banc 3 diwrnod o hyd yn cael ei gynnal rhwng dydd Sadwrn 6 Mai a dydd Llun, 8 Mai i roi cyfle i gymunedau a phobl ddod ynghyd i ddathlu Y Coroni.

Partïon Stryd

Os ydych yn cynllunio parti ar y stryd, gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl ganiatâd a thrwyddedau perthnasol mewn lle. Mae gwybodaeth lawn ar dudalen benodedig Coroni'r Brenin ar wefan y Cyngor.

Hefyd, cofiwch ystyried:

  • Hylendid bwyd a sŵn
  • Os ydych chi'n gyngor cymuned neu dref, gallwch wneud cais i osod baneri. Peidiwch â hongian unrhyw eitemau ar bolion lamp neu dros balmentydd neu ffyrdd.
  • Dylech ailgylchu cymaint â phosibl. 
  • Prynwch eich bwyd a diod yn lleol drwy ddefnyddio 100% Sir Gâr.

Os ydych chi'n ceisio meddwl am leoliad priodol i gynnal eich dathliad, beth am ystyried cynnal eich dathliad yn un o'r nifer o barciau gogoneddus y mae'r Cyngor Sir yn eu rheoli? Parchwch eraill a chofiwch fynd â'ch sbwriel gartref gyda chi.

Gwneud yn fawr o’r penwythnos

Mae gan Sir Gaerfyrddin ddigon i'w gynnig i bobl sy'n dymuno mwynhau eu hunain y penwythnos yma.

O'n traethau, amgueddfeydd, llwybrau beicio a cherdded i'n theatrau, parciau gwledig a'n marchnadoedd, i enwi ond ychydig, mae gwefan Darganfod Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth eang o syniadau cyffrous ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.