Modiwl Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn edrych ar berthynas unigryw Sir Gâr â'r Gymraeg

484 diwrnod yn ôl

Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.

Cyn Wythnos Twristiaeth Cymru sydd rhwng 15 a 21 Mai, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog mwy o bobl i gymryd rhan ac i fod yn Llysgennad Sir Gâr.

Yn dilyn lansio'n llwyddiannus Gynllun Llysgenhadon Sir Gâr ym mis Ionawr 2023, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi bod modiwl newydd wedi'i gyhoeddi i ddathlu cynnal Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri yn hwyrach y mis hwn.

Mae modiwl 'Yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin' yn rhoi sylw i sut mae'r Gymraeg yn rhan annatod o hunaniaeth bywyd ein cymunedau o ddydd i ddydd.

Mae dros 100 o bobl eisoes wedi derbyn yr her o fod yn Llysgennad Sir Gâr hyd at lefel Efydd, a dyma'r modiwl newydd cyntaf fydd yn mynd â chi ar eich taith i achrediad Arian.

Bydd modiwlau pellach yn cael eu cyhoeddi yn y misoedd nesaf, felly cadwch lygad am fodiwlau 'Arfordir Sir Gâr' a 'Mannau Gwyrdd a Gerddi'.

Ymhlith y 100 a mwy o Lysgenhadon Sir Gâr mae Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, y Cynghorydd Gareth John.

Ar gwblhau ei achrediad Lefel Efydd a'r modiwl 'Yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin', dywedodd y Cynghorydd John:  “Rwy'n falch i fod yn Llysgennad swyddogol ar gyfer Sir Gâr a gweithio ar ran sector twristiaeth y sir. Ymhen ychydig dros bythefnos, bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri sef gŵyl ieuenctid wythnos o hyd, sy'n dathlu iaith a threftadaeth ein cenedl. Felly, mae'n amserol iawn ein bod ni'n lansio'r modiwl 'Yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin' yn y Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr.

"Bydd y modiwl hwn yn galluogi ein llysgenhadon i werthfawrogi'n well sut mae'r Iaith Gymraeg ynghlwm wrth bob agwedd o'n sir, ac wedi'i siapio i'r Sir Gâr yr ydym yn ei hadnabod a'i charu mor dda."

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Llysgennad Sir Gâr, ac os hoffech ddysgu mwy am y rhan arbennig hon o Gymru, ewch i Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr.

Cynllun ar-lein yw cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr sy'n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am nodweddion arbennig Sir Gâr.

Mae'n ffordd wych o ddyfnhau eich gwerthfawrogiad am le a dysgu mwy am ei nodweddion unigryw. Mae cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr am ddim ac yn agored i bawb. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu.

Mae 3 lefel o wobrau - efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sydd wedi'u cwblhau. Mae gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a logos yn cael eu hanfon at bawb sy'n cwblhau'r lefelau.