Cyfle i fusnesau newydd gael lle ar y stryd fawr

493 diwrnod yn ôl

Delwedd ddangosol o'r tri chiosg
Delwedd ddangosol o'r tri chiosg

Fel rhan o strategaeth adfywio'r Cyngor ar gyfer tref Caerfyrddin, mae tri chiosg gwerthu yn cael eu hadeiladu ar Heol y Capel er mwyn annog busnesau bach newydd i gymryd y cam cyntaf i ddatblygu eu busnes, trwy gael presenoldeb yng nghanol tref fawr.  Bydd y busnesau a fydd yn meddiannu'r ciosgau gwerthu hefyd yn cael cynnig mynediad at ystod lawn o gymorth a hyfforddiant busnes proffesiynol gan y Cyngor.

Gan gydnabod bod y ciosgau wedi'u bwriadu i gartrefu busnesau bach newydd, bydd yr unedau hunangynhwysol ar gael i denantiaid am gost isel a byddant wedi'u lleoli yng nghanol tref farchnad sy'n denu nifer sylweddol o ymwelwyr.

Ar ôl i'r ciosgau gael eu gosod bydd y cynlluniau ar gyfer yr ardal gyfagos yn cael eu datblygu.  Mae'r Cyngor yn gobeithio gwella'r mannau awyr agored sydd ar gael, gyda'r nod o annog pobl leol ac ymwelwyr i wneud mwy o ddefnydd ohoni, trwy wella'r seilwaith gwyrdd o fewn yr ardal. Bydd hyn hefyd yn cynnig taith ddymunol a deniadol i siopwyr ac ymwelwyr wrth iddynt gerdded tuag at Heol y Brenin.

Fel rhan o'r adferiad ar ôl y pandemig, mae'r awdurdod wedi sicrhau ei fod yn cynnig cymorth a chyfleoedd i fusnesau bach annibynnol ar draws y sir. Un o'r prosiectau mwyaf llwyddiannus a ddeilliodd o hyn yw'r rhaglen "100% Sir Gâr", sydd bellach â thros 200 o fusnesau wedi cofrestru arni. Fel rhan o'r rhaglen 100% mae siopau sionc wedi'u cynnal yng nghanol tair prif dref Sir Gaerfyrddin - Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin.

Mae'r Cyngor wedi derbyn ymateb gwych i siopau sionc 100% Sir Gâr ac mae'n falch o fod wedi cynnig safleoedd i fusnesau bach ar y stryd fawr yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol i'r diwydiant adwerthu. Bydd y ciosgau gwerthu ar Heol y Capel yn mynd â'r siop dros dro un cam ymhellach, trwy ddarparu safle parhaol i fusnesau bach yng nghanol y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Dyma gyfle unigryw i fusnesau newydd. Drwy raglen 100% Sir Gâr rydym wedi rhoi presenoldeb tymhorol i fusnesau newydd a lleol ar y stryd fawr yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, ac yn awr mae'r ciosgau hyn yn mynd gam ymhellach wrth wneud eu presenoldeb yn nodwedd barhaol. Mae'r Cyngor hefyd yn darparu cymorth ariannol ar gyfer twf busnes a chyflogaeth. 

“Mae'r Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd parhau i fuddsoddi yng nghanol ein trefi er mwyn annog busnesau i fod yn bresennol ar y stryd fawr a masnachu yn ein trefi. 

“Os ydynt yn llwyddo i dyfu eu busnes, y gobaith yw y bydd y mentrau hynny a fydd wedi'u lleoli yn y ciosgau yn symud i safle mwy, dan berchnogaeth breifat neu ar rent mewn mannau eraill yn y dref y mae'r Cyngor hefyd yn eu cymell yn ariannol. 

Rwyf yn edrych ymlaen at weld busnesau newydd sydd wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin yn masnachu o'r ciosgau hyn i ddechrau ac yna o safleoedd sydd yn fwy yn y dref.”

Am ragor o wybodaeth am rentu uned werthu ar Heol y Capel, ewch i adran Eiddo’r Cyngor ar wefan y Cyngor Sir.

Am ragor o wybodaeth am raglen 100% Sir Gâr ewch, cliciwch yma.