Ailgadarnhau pwysigrwydd glanhau dwylo ar Ddiwrnod Hylendid Dwylo'r Byd

486 diwrnod yn ôl

Mae cadw eich dwylo yn lân yn neges bwysig sy'n cael ei hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn, ar draws holl adrannau'r Cyngor. 

Mae dydd Gwener 5 Mai wedi'i ddynodi'n Ddiwrnod Hylendid Dwylo'r Byd gan Sefydliad Iechyd y Byd ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi'r ymgyrch hon drwy gynnal diwrnod hyrwyddo ym mhob un o'i gartrefi gofal er mwyn pwysleisio'r rôl hanfodol y mae dwylo glân yn ei chwarae wrth ddiogelu preswylwyr a gofalwyr.

Bydd y diwrnod hyrwyddo yn cynnwys cystadleuaeth i'r bwrdd arddangos gorau rhwng y cartrefi gofal i godi ymwybyddiaeth o hylendid dwylo ymhlith preswylwyr, staff ac ymwelwyr. Bydd yr arddangosfa fuddugol yn cael gwobr sydd wedi'i roi'n garedig gan Chris Thomas & Son Fruit & Sons Wholesalers, Abergwili, Caerfyrddin.

Bydd Swyddogion Diogelu Iechyd Unigol hefyd yn ymweld â'r cartrefi gofal i hyrwyddo'r ymgyrch bwysig hon. 

Mae wedi'i brofi mai Hylendid Dwylo yw'r dechneg unigol fwyaf sylfaenol ac effeithiol o ran atal a rheoli trosglwyddo pathogenau ac fe'i cydnabyddir fel y mesur blaenllaw i atal trosglwyddo bacteria a lleihau nifer yr achosion o haint sy'n cael ei drosglwyddo mewn lleoliadau gofal iechyd.

Dywedodd yr Arweinydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Jane Tremlett: “Yma yn Sir Gaerfyrddin rydym yn llwyr gefnogi Diwrnod Hylendid Dwylo Sefydliad Iechyd y Byd. 

“Y ffordd fwyaf cyffredin mae germau'n cael eu lledaenu yw drwy ddwylo pobl. Gallwch achub bywydau trwy lanhau eich dwylo'n aml. Mae modd atal y rhan fwyaf o heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd drwy hylendid dwylo da, felly wrth ymweld â ffrind neu berthynas mewn cartref gofal neu unrhyw amgylchedd lle mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn glanhau eich dwylo.”

4 awgrym i'ch helpu i olchi eich dwylo'n gywir: 

  • Defnyddiwch sebon i olchi eich dwylo ond os nad oes sebon a dŵr ar gael defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo.
  • Sgrwbiwch eich dwylo am y 20-30 eiliad llawn gan gofio glanhau pob rhan o'ch dwylo.
  • Sychwch eich dwylo'n drylwyr gan fod dwylo sych yn lledaenu llawer llai o ficro-organebau na rhai gwlyb.
  • Ceisiwch beidio â chyffwrdd eich wyneb – mae'n llawer anoddach nag y mae'n swnio – os nad ydych yn cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn na'ch ceg, rydych yn llawer llai tebygol o gael haint.