Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Liniaru Llifogydd - Llangennech

520 diwrnod yn ôl

Mae trigolion Llangennech yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynlluniau posibl i atal llifogydd yn y pentref a'r gymuned o'i amgylch.

Mae prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn mynd rhagddo i ymchwilio i'r perygl o lifogydd yn Llangennech yn awr ac yn y dyfodol, asesu opsiynau lliniaru llifogydd posibl i leihau'r perygl o lifogydd i drigolion yn y pentref ac ymchwilio i ddulliau cyllido ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynllunio digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid yn Llangennech ddydd Mercher, 19 Ebrill rhwng 2pm a 7pm yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech.

Bydd swyddogion o Dîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir y Cyngor ac WSP Consultants ar gael drwy gydol y sesiwn i ateb unrhyw ymholiadau.

Mae Tîm y Prosiect am ddeall yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar y gymuned ac asesu gwahanol fesurau atal llifogydd posibl a fydd yn lleihau'r effaith yn ystod tywydd cynyddol stormus yn y dyfodol.

Bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu sylwadau a'u hadborth yn bersonol i Dîm y Prosiect ar y diwrnod, neu drwy ysgrifennu eu sylwadau a'u gadael mewn blwch a fydd ar gael yn y lleoliad.

Bydd adborth o'r digwyddiad yn bwydo i mewn i'r cam nesaf o'r gwaith ac yn ffurfio rhan o unrhyw benderfyniadau y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddylunio a gweithredu unrhyw gynllun i leihau'r perygl o lifogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori yn Llangennech i drafod lliniaru llifogydd ac i wrando ar farn trigolion am sut orau y gallwn ddiogelu cartrefi a busnesau yn y pentref rhag llifogydd. Byddwn yn annog cynifer â phosibl o drigolion sy'n byw yn Llangennech i ddod i'r digwyddiad i roi eu barn.” 

Cynhelir y Digwyddiad Ymgynghori Cyhoeddus ar Liniaru Llifogydd yn Llangennech ddydd Mercher 19 Ebrill rhwng 2pm a 7pm yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech.