Y tenantiaid cyntaf yn symud i brosiect tai â chymorth newydd yn Llanelli

513 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi agor prosiect llety â chymorth newydd sbon gyda chymorth 24 awr i'w breswylwyr yn Nheras Coleshill, Llanelli.

Mae'r Cyngor wedi trawsnewid yr hen Swyddfa Gofrestru a'r Ddesg Arian yn llety â chymorth o ansawdd i wyth o unigolion, gan eu helpu i fyw'n annibynnol yn y gymuned.

Mae'r gwaith i drawsnewid yr adeilad wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r cyfleuster newydd yn cynnwys pedwar fflat hunangynhwysol ac uned llety a rennir ar wahân i bedwar tenant.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi, Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae prosiect Teras Coleshill yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu'r cyflenwad o lety â chymorth o safon sy'n fforddiadwy ac sy'n eiddo i'r Cyngor fel rhan o'n cynllun cyflawni tai fforddiadwy.
“Mae hwn yn waith ar y cyd rhwng tai a gofal cymdeithasol a fydd yn helpu unigolion i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Byddwn hefyd yn darparu cefnogaeth briodol i reoli eu tenantiaeth eu hunain er mwyn sicrhau mwy o ryddid a rheolaeth yn eu bywydau.”

Mae'r prosiect hwn yn rhan o Gynllun Cyflawni pum mlynedd y Cyngor ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai a fydd yn arwain at greu dros 2,000 o gartrefi o fewn pum mlynedd a buddsoddiad o dros £300miliwn.