Siopau Sionc 100% Sir Gâr yn dychwelyd dros y Pasg

521 diwrnod yn ôl

Bydd siopwyr yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin, sef Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, yn cael eu cyflwyno i gyfoeth o gynnyrch gan fusnesau lleol dros y Pasg.

Yn ystod gwyliau'r Pasg bydd siopau sionc 100% Sir Gâr yn dychwelyd i'r stryd fawr, a bydd cyfle i fusnesau Sir Gaerfyrddin arddangos eu cynnyrch i farchnadoedd newydd.

Oriau Agor:

 

Llanelli (hen siop EE, Stryd Stepney) – rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, 11-14 Ebrill, 10am-4pm

 

Caerfyrddin (hen siop Debenhams, Rhodfa'r Santes Catrin) – rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, 11-14 Ebrill, 10am-4pm.

 

Rhydaman (y farchnad awyr agored, Stryd y Cei) – dydd Gwener, 14 Ebrill, 9am-3pm

 

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 'Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru', a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rwy'n falch o weld busnesau Sir Gaerfyrddin yn dychwelyd i'n tair prif stryd fawr yn ystod gwyliau'r Pasg, a hynny yn siopau sionc 100% Sir Gâr.”

“Pa ffordd well o dreulio'r gwyliau Pasg na mwynhau diwrnod yn y dref, yn siopa ac yn cefnogi busnesau Sir Gaerfyrddin?”