Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc Calan Mai a Gŵyl Banc y Coroni

507 diwrnod yn ôl

Nid oes unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc Calan Mai (1 Mai) a Gŵyl Banc y Coroni (8 Mai).

Rhowch eich sbwriel mas cyn 6am ar eich diwrnod casglu arferol. Bydd gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer.

Er ein bod yn bwriadu casglu fel arfer ar y ddwy ŵyl banc, efallai y bydd hyn yn amharu ar y gwasanaeth mewn rhai mannau a gallai'r trefniadau newid ar fyr rybudd. Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc. Gallwch gweld oriau agor y canolfannau ailgylchu yma.

Diolch yn fawr am ailgylchu.