Cyfle pellach am gyllid yn Sir Gaerfyrddin o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

512 diwrnod yn ôl

Mae Blaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys y rhaglen rhifedd i oedolion, Lluosi, bellach ar agor yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau cymunedol, cyhoeddus a phreifat i ariannu prosiectau o fewn y thema Pobl a Sgiliau sy'n ceisio cynyddu ffyniant y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae nifer o gyfleoedd ar gael i sefydliadau cymunedol, busnesau, a sefydliadau cyhoeddus wneud cais am gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda'n partneriaid lleol i dyfu economi Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei dderbyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n pobl leol a'n busnesau.”

Mae £38.6 miliwn o gyllid wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Caerfyrddin drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae cyfleoedd am gyllid o dan flaenoriaethau Cymuned a Lle a Chefnogi Busnesau Lleol y Gronfa bellach ar gael.

Ewch i wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin ynghyd â manylion am sut i wneud cais.