Y Cyngor yn cymeradwyo mabwysiadu premiymau ar ail gartrefi ac eiddo gwag
614 diwrnod yn ôl
Mewn ymateb i'r angen am ragor o dai fforddiadwy, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir. Bydd hyn yn dod i rym o 1 Ebrill, 2024 ymlaen.
Mae pryderon ar lefel leol a chenedlaethol ynghylch effaith ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau.
Mae'r Cyngor yn gweithio i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn Sir Gaerfyrddin i ailddefnyddio eiddo gwag tymor hir ac i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy a fydd yn gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
Mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar cafwyd ymatebion gan drigolion, perchnogion ail dai a pherchnogion eiddo gwag ynghylch cynigion i gyflwyno Premiwm y Dreth Gyngor ar eiddo sy'n wag ar y cyfan. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno bod eiddo gwag tymor hir yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol yn Sir Gaerfyrddin.
Nododd gwaith ymchwil a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn 2021 y gall ail gartrefi gynyddu prisiau eiddo lleol drwy gynyddu'r galw am dai. Ynghyd â chwyddiant prisiau tai, effaith uniongyrchol amlycaf ail gartrefi oedd lleihau'r stoc dai.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddull â thair rhan iddo i fynd i'r afael â'r hyn y maent yn ei alw'n argyfwng ail gartrefi.
- Cymorth – mynd i'r afael â fforddiadwyedd ac argaeledd cartrefi,
- System a fframwaith rheoleiddio – ymdrin â chyfreithiau sy'n ymwneud â chynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau;
- Cyfraniad tecach – defnyddio systemau trethiant cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau y maent yn prynu ynddynt.
Mae'r Llywodraeth yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol godi, neu amrywio premiwm y dreth gyngor o hyd at 300% yn uwch na'r gyfradd safonol ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir.
Ar hyn o bryd, nid yw'r Cyngor yn defnyddio cynllun premiwm y dreth gyngor; codir cyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir.
Ar hyn o bryd, mae hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio cynllun premiwm gyda'r lefel a osodwyd gan bob awdurdod yn amrywio o 25% i 100%.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Mae dros 800 o ail gartrefi yn Sir Gaerfyrddin a 1,800 o dai sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn o leiaf – a nifer ohonynt ers blynyddoedd lawer. Mae'r ddau gategori eiddo yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol.
“Y bwriad o ran cyflwyno premiwm ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir yw naill ai annog mwy o ddefnydd o'r tai hyn, neu sicrhau bod eu perchnogion yn cyfrannu mwy tuag at ein cymunedau.
“Yn achos y tai gwag tymor hir, maent yn cael effaith negyddol ar strydoedd, yn gallu bod yn darged o ran fandaliaeth, ac yn wastraff o adnoddau.
“Yn ein hymgynghoriad, roedd 61% o'r ymatebwyr yn cytuno bod tai gwag tymor hir yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol, ac roedd y mwyafrif yn cytuno â chodi premiwm.
“Rydym yn bwriadu codi premiwm o 50% ar dai sydd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, a bydd hynny'n codi i 100% rhwng dwy a phum mlynedd, ac i 200% ar ôl pum mlynedd.
“O ran ail gartrefi, mae'r ateb, yn rhannol, yn y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014, sydd wedi'i diwygio a'i chryfhau'n ddiweddar. Nod y ddeddfwriaeth yw sicrhau bod ail gartrefi, sy'n llety gwyliau, naill ai'n cael defnydd o ansawdd drwy gael eu gosod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn, a fydd yn rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth, neu fod perchnogion yn talu premiwm ar y dreth gyngor fel cyfraniad tuag at leddfu'r effaith negyddol y mae ail gartrefi yn gallu ei chael.
“Fel Cyngor, rydym am fynd i'r afael â'r broblem hon mewn ffordd bwyllog a rhesymol. Rydym yn cynnig codi premiwm o 50% ar ail gartrefi i ddechrau, gyda'r bwriad o'i godi i 100% ym mis Ebrill 2025. Yn ogystal â'r saith dosbarthau esempt, a nodir yn y ddeddfwriaeth, byddwn hefyd yn ystyried unrhyw resymau dilys eraill dros esemptiadau.
“Erbyn y flwyddyn 2025/26, gallai cyfanswm y premiwm ar gyfer y ddau ddosbarth godi unrhyw beth hyd at £3m o bosibl, neu gellid rhyddhau tai i fod yn gartrefi ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin, yn dibynnu ar ymateb y perchnogion. Byddai'r cyllid ychwanegol hwn yn gyfraniad gwerthfawr tuag at helpu'r Cyngor Sir i gynnal gwasanaethau hanfodol ar adeg pan fo pwysau ariannol mawr, ond mae'n rhaid imi bwysleisio mai'r prif nod yw annog gwell defnydd o dai yn ein sir.”